Neidio i'r prif gynnwy

Sut gallwn ni ymddiried yn yr ymgynghoriad diwethaf yn 2018?

Roedd y broses ymgysylltu, datblygu opsiynau, ac ymgynghori yn destun sicrwydd ansawdd cadarn a helaeth gan The Consultation Institute - sefydliad arfer gorau dielw sy'n hyrwyddo ymgynghori o ansawdd uchel â'r cyhoedd a rhanddeiliaid.

Gweithiodd y Sefydliad Ymgynghori â ni yn gynnar yn y broses, cyn ymgynghoriad ffurfiol, i adeiladu proses a oedd yn addas i'r diben ac a oedd yn bodloni canllawiau arfer da.

Gwnaethom hefyd gomisiynu (yn dilyn proses dendro briodol), ymarfer ymchwil cymdeithasol annibynnol, Opinion Research Services (ORS), i gynnal dadansoddiad a gwerthusiad annibynnol o'r adborth o'r ymgynghoriad ffurfiol.

Cafodd yr adroddiad gan ORS, ac ymateb ffurfiol gan Gyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda fel rhan o’u dyletswyddau statudol ynghylch newid gwasanaeth a llais y claf/dinesydd, ill dau eu hystyried mewn cyfarfod arbennig o’r Bwrdd Iechyd ym mis Medi 2018.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: