Neidio i'r prif gynnwy

Pam symudodd y bwrdd iechyd o 5 safle i 3 ar y rhestr fer?

Yn seiliedig ar y dystiolaeth a'r manylion a ddarparwyd trwy'r broses arfarnu tir gynhwysfawr, penderfynodd y Bwrdd ddwyn tri o'r pum safle a ystyriwyd yn flaenorol, drwodd i ymgynghoriad cyhoeddus.

Mae safleoedd na ddygwyd ymlaen yn cynnwys un o ddau yn Sanclêr (safle J). Roedd hyn oherwydd iddo gael y sgôr risg uchaf yn seiliedig ar nodweddion y safle a chafodd sgôr sylweddol is na safleoedd eraill yn yr arfarniad technegol, a oedd yn cynnwys cynrychiolaeth fwyafrifol o’r cyhoedd ac a ddefnyddiodd broses sgorio wedi’i phwysoli yn unol â’r hyn sydd bwysicaf i’n cymunedau.

Y safle arall na chafodd ei ddatblygu ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus oedd safle Arberth. Roedd hyn oherwydd pryderon gwerthusiad clinigol y byddai safle ymhellach i’r gorllewin yn arwain at ostyngiad yn nifer y genedigaethau, derbyniadau newyddenedigol a derbyniadau pediatrig acíwt gan leihau’r màs critigol ar gyfer gwasanaethau diogel a chynaliadwy, a chael effaith negyddol ar gynnal statws hyfforddai ar gyfer meddygon, nyrsys a bydwragedd. Mewn perthynas â throsglwyddiadau amser critigol, er enghraifft gofal dwys newyddenedigol a chardiaidd, mae'r rhain i gyd yn teithio i'r dwyrain a nododd y Bwrdd y byddai ysbyty yn Arberth yn arwain at amseroedd trosglwyddo hirach.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: