Neidio i'r prif gynnwy

Pa waith sydd eisoes wedi'i wneud gyda'r cyhoedd i'w cynnwys yn y broses o ddewis safle ar gyfer yr Ysbyty Gofal Brys a Gofal wedi'i Gynllunio newydd?

Dyma rai elfennau allweddol o’r gwaith a gyflawnwyd hyd yn hyn:

•        Cytunodd y Bwrdd iechyd bod angen ysbyty newydd arnom fel rhan o'n strategaeth iechyd a gofal ehangach, a gymeradwywyd yn 2018. Daeth y penderfyniad hwn yn dilyn ymgynghoriad ffurfiol â'r cyhoedd. Cytunodd y Bwrdd y byddai angen lleoli’r ysbyty rhywle rhwng Arberth a Sanclêr a chan gynnwys parth hwnnw i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth brys sydd mor agos â phosibl at fod o fewn awr i’r rhan fwyaf o boblogaethau ein hardal.

•        Gofynnwyd i aelodau o'n cymuned enwebu safleoedd addas o fewn y parth y cytunwyd arno yn ystod ymarfer ymgysylltu chwe wythnos ym mis Mai 2021. Gwnaethom hefyd gynnal ymarfer bwrdd gwaith i nodi safleoedd addas posibl a chysylltwyd â thirfeddianwyr i bennu eu diddordeb. Gyda'i gilydd, arweiniodd y gwaith hwn at restr hir o 11 safle.

•        Gofynnwyd i'n cymunedau beth sy'n bwysig iddynt wrth ystyried safleoedd addas ar gyfer ysbyty newydd. Fe wnaethom ddefnyddio’r wybodaeth hon mewn gweithdy yn ystod mis Hydref 2021 i gyfyngu’r rhestr fer i bum safle – un yn ardal Arberth, dau yn ardal Hendy-gwyn ar Daf a dau yn ardal Sanclêr. Roedd cynrychiolwyr o’r Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid, y Fforwm Gweithwyr Proffesiynol Gofal Iechyd a’n Fforwm Partneriaeth Staff yn rhan o’r gweithdy. Roedd yr awdurdodau lleol (cynghorau sir) a'r Cyngor Iechyd Cymuned hefyd yn bresennol i arsylwi a gofyn cwestiynau.

•        Yn 2022, sefydlwyd pedwar grŵp arfarnu – technegol, clinigol, gweithlu ac ariannol/economaidd – i rannu eu hystyriaethau â'r Bwrdd. Mae rhagor o wybodaeth am y grwpiau a’u hallbynnau ar gael yma (agor mewn dolen newydd).

•        Derbyniodd y Bwrdd Iechyd adroddiadau gan y grwpiau arfarnu mewn cyfarfod ar 04 Awst 2022. Penderfynodd y Bwrdd ddwyn tri o'r pum safle ymlaen i ymgynghoriad ffurfiol â'r cyhoedd.

Y bwriad yw cynnal yr ymgynghoriad tir gyda’r cyhoedd am 12 wythnos o Ionawr 2023.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: