Neidio i'r prif gynnwy

Pa pum safle oedd ar y rhestr fer ym mis Chwefror 2022

Fe wnaethom ofyn i’n cymunedau beth sy’n bwysig iddyn nhw wrth ystyried safleoedd addas ar gyfer ysbyty newydd. Defnyddiwyd y wybodaeth hon gennym mewn gweithdai ym mis Hydref 2021 a mis Chwefror 2022 i gyfyngu’r 11 safle ar y rhestr hir i restr fer o bump.

Roedd cynrychiolwyr o’r Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid, y Fforwm Gweithwyr Proffesiynol Gofal Iechyd a’n Fforwm Partneriaeth Staff yn rhan o’r gweithdy. Roedd yr awdurdodau lleol (cynghorau sir) a'r Cyngor Iechyd Cymuned hefyd yn bresennol i arsylwi a gofyn cwestiynau.

Dyma’r pum safle ar y rhestr fer:

  • Tir amaethyddol ac adeiladau sy'n rhan o Fferm Kiln Park sydd i'r gogledd o orsaf drenau Arberth ac yn gyfagos i'r A478, tua 1km i'r gogledd-ddwyrain o ganol tref Arberth.
  • Tir amaethyddol i'r gogledd-ddwyrain o ganol tref Hendy-gwyn ar Daf ac wedi'i leoli rhwng yr A40 i'r gogledd, Clwb Rygbi Hendy-gwyn i'r dwyrain a Spring Gardens i'r de.
  • Tir amaethyddol ac adeiladau sy'n rhan o Fferm Tŷ Newydd sydd wedi'i leoli i'r dwyrain o safle Hufenfa Hendy-gwyn ar Daf a chanol tref Hendy-gwyn ar Daf.
  • Tir amaethyddol ac adeiladau sy'n rhan o Penllyne Court rhwng Hendy-gwyn ar Daf a Sanclêr ychydig y tu allan i bentraf Pwll-Trap. Mae’r safle rhwng rheilffordd Abertawe-Hwlffordd i'r gogledd a'r A40 i'r de.
  • Tir amaethyddol ar hen gaeau Bryncaerau, a leolir gerllaw cyffordd yr A40 a'r A477 yn Sanclêr, rhwng yr A4066 (Ffordd Dinbych-y-pysgod) i'r de, pentref Pwll Trap i'r gogledd a'r A40 i'r gorllewin.
Dilynwch ni ar:
Rhannwch: