Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw'r cam nesaf ar gyfer dewis safle?

Buom yn ymgynghori â’r cyhoedd am 12 wythnos rhwng 23 Chwefror a 19 Mai 2023 ar ddewis safle ysbyty newydd  ar gyfer Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ein hymgynghoriad ar dudalen we Safle Ysbyty Newydd -  Safle ysbyty newydd - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (gig.cymru) yn agor mewn dolen newydd.

Ar 14 Medi 2023, mewn cyfarfod eithriadol o’r Bwrdd, bu aelodau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn trafod canfyddiadau ein hymgynghoriad cyhoeddus diweddar, ynghyd â’r wybodaeth dechnegol a masnachol ddiweddaraf, ar y tri safle posibl ar gyfer ysbyty gofal brys a gofal wedi’i gynllunio Newydd yn ne rhanbarth Hywel Dda.

Yn dilyn ystyriaeth drylwyr o ganfyddiadau’r ymgynghoriad a gafodd eu coladu a’u dadansoddi’n annibynnol gan Opinion Research Services (ORS), ynghyd â gwybodaeth dechnegol bellach am y tri safle posibl, a gwybodaeth fasnachol, penderfynodd aelodau’r Bwrdd leihau’r rhestr fer o dri i ddau safle.

Penderfynodd y Bwrdd symud ymlaen gyda Thŷ Newydd, Hendy-gwyn ar Daf, a’r safle yn Sanclêr. Dewiswyd y safleoedd hyn ar ôl ystyried yr adroddiad ymgynghori, Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb Iechyd, arfarniadau Technegol, Bioffilig, Clinigol a Gweithlu. Penderfynwyd na fyddai safle Gerddi Ffynnon, Hendy-gwyn ar Daf yn cael ei symud ymlaen i'w ystyried ymhellach.

Darllenwch yr adroddiad adborth terfynol gan Opinion Research Services (ORS) - Safle Ysbyty Newydd Awst 2023 yma (PDF, 3.66MB, yn agor mewn dolen newydd.)

Roedd y cyfarfod bwrdd eithriadol yn agored i'r cyhoedd ac ar gael i'w weld ar-lein. Gellir gweld papurau’r Bwrdd a drafodwyd yn y cyfarfod, a oedd yn cynnwys rhagor o wybodaeth dechnegol am y tri safle, ar wefan y bwrdd iechyd: Board Papers 14 September 2023 (yn agor mewn tab newydd) (Saesneg yma).

Mae gwaith a thrafodaethau pellach yn cael eu cynnal gyda chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru i weithio drwy’r gofynion manwl, gan gynnwys yr adnoddau a’r amserlenni tebygol.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: