Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw'r broses ar gyfer hyn?

Gwnaethom gyflwyno Achos Busnes Rhaglen i Lywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2022 ac yn ymaros adborth ar hyn.

Yn y cyfamser, rydym wedi parhau â’r gwaith sydd ei angen i fwrw ymlaen â’n cynlluniau ar gyfer rhan bwysig o’r PBC, sef darparu Ysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd yn ne ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Penderfynodd y Bwrdd Iechyd, mewn cyfarfod ar 04 Awst 2022, y dylid cynnal ymgynghoriad gyda’r cyhoedd ar ddewis tir ar gyfer yr ysbyty newydd. Mae hyn i fod i ddigwydd am 12 wythnos o Ionawr 2023.

Bydd cyflawni’r Achos Busnes Rhaglen gyfan yn broses hirfaith. Er enghraifft, rydym yn disgwyl y bydd yr Ysbyty Gofal Brys a Gofal wedi'i Gynllunio newydd yn cymryd tan o leiaf ddiwedd 2029 i agor.

Bydd angen ymgysylltu’n rheolaidd, ac o bosibl ymgynghori ar rannau o’r rhaglen, gyda chleifion, y cyhoedd, staff a phartneriaid yn ystod y broses hon.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: