Rydym yn ddiolchgar i bawb a gymerodd ran yn yr ymarfer ymgysylltu yn ystod gwanwyn 2021 – o’r enw Adeiladu Dyfodol Iachach ar ôl COVID-19.
Mae'r adroddiad adborth ar gael yma (agor mewn dolen newydd) ac mae’n rhoi crynodeb o’r hyn a glywsom ac a ddysgwyd. Dyma wybodaeth gyfoethog sy'n chwarae rhan bwysig yn y gwaith o ddarparu ein gwasanaethau a chynllunio ar gyfer gwella'r gwasanaethau hynny yn y dyfodol.
Un enghraifft o ble rydym wedi defnyddio adborth yw’r gwaith i lunio rhestr fer o safleoedd tir posibl ar gyfer yr Ysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd yn ne ein hardal.
Mae ein hymrwymiad i ymgysylltu’n barhaus â gwasanaethau, ynghyd â gwrando ar feddyliau a barn ein cymunedau, cleifion, a staff, yn bwysig i ni. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â chi ac yn gofyn i chi rannu eich barn wrth i ni reoli effaith barhaus y pandemig a chynllunio ar gyfer gwasanaethau gwell ar gyfer y dyfodol.