Neidio i'r prif gynnwy

Beth sydd wedi eich arwain at y pwynt hwn?

Fe wnaethom ymgynghori â’r cyhoedd ar ddyfodol gwasanaethau iechyd yn Hywel Dda yn 2018 – enw’r ymgynghoriad oedd Trawsnewid ein Gwasanaeth Iechyd.

Bu aelodau’r Bwrdd yn ystyried y cyfan a glywsant gan gleifion, staff, y cyhoedd a sefydliadau diddordeb, nid yn unig yn ystod yr ymgynghoriad, ond hefyd yn ystod y cyfnod ymgysylltu cyn-ymgynghori a datblygu opsiynau. Buont hefyd yn ystyried y safbwyntiau clinigol, a materion eraill gan gynnwys safonau diogelwch y mae'n rhaid i'r GIG eu bodloni yn ogystal â'r gallu i ddarparu gwasanaethau yn y dyfodol.

Cymeradwywyd 11 o argymhellion gan glinigwyr, sydd ar gael yn yr adroddiadau bwrdd yma (Saesneg yn unig- agor yn dolen newydd).

Arweiniodd y gwaith hwn at ein strategaeth iechyd a gofal hirdymor, Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach: Cenedlaethau’r Dyfodol yn Byw’n Iach, a gymeradwywyd mewn cyfarfod Bwrdd ar 29 Tachwedd 2018. Mae papurau’r Bwrdd ar gael yma (Saesneg yn unig- agor yn dolen newydd) a gellir gweld y strategaeth mewn amrywiol fformatau yma yma (agor yn dolen newydd).

Yr Achos Busnes Rhaglen yw’r ddogfen lefel uchel gyntaf, i geisio sicrhau cymorth gan Lywodraeth Cymru i ariannu gwaith manwl, ac yn y pen draw, i ariannu’r adeiladau a’r seilwaith sydd eu hangen arnom i gyflawni ein strategaeth hirdymor.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: