Neidio i'r prif gynnwy

Beth oedd pwrpas y grwpiau gwerthuso tir a beth oedd eu canfyddiadau?

Darparodd pedwar grŵp arfarnu tir adroddiadau allbwn am y pum safle a gyrhaeddodd y rhestr fer i helpu’r Bwrdd Iechyd i wneud ei benderfyniad ynghylch safleoedd posibl yn ei gyfarfod ar 04 Awst 2022. Dyma’r grwpiau.

    • Technegol – gan gynnwys aelodau o'n poblogaeth leol o bob rhan o'n daearyddiaeth, rhanddeiliaid a phartneriaid, a staff. Bu’r grŵp hwn yn ystyried agweddau technegol y pum safle posibl, yn ogystal ag adborth o ymgysylltu â’r cyhoedd. Sgoriodd pedwar o'r pum safle posibl yn debyg iawn yn yr arfarniad hwn, gyda dim ond un o'r safleoedd ger Sanclêr yn sgorio'n sylweddol is na'r lleill.
    • Clinigol – cynhaliwyd dau werthusiad clinigol i asesu cynaliadwyedd gwasanaeth lleoli’r ysbyty newydd yng ngwahanol leoliadau’r parth (h.y. ymhellach i’r gorllewin, yn y canol, neu ymhellach i’r dwyrain). Canfu’r grŵp arbenigol obstetreg, gwasanaethau newyddenedigol a phediatreg fod safleoedd ymhellach i’r dwyrain yn cyflwyno’r risg glinigol leiaf i wasanaethau. Roedd mynychwyr y gweithdy o'r farn y byddai safle ymhellach i'r dwyrain y tu allan i'r parth yn well. Dywedodd y grŵp arbenigol ar gyfer gwasanaethau strôc y byddai unrhyw ran o’r parth yn addas oherwydd y ffocws ar lwybrau a sut mae cleifion yn cael eu trin y tu hwnt i’w derbyniad cychwynnol. Fodd bynnag, dywedodd, o ran mynediad am resymau gweithlu, y byddai'r safleoedd yn y canol neu'r dwyrain yn well.
    • Arfarniad o’r Gweithlu – darparodd y grŵp hwn ffocws ar yr effaith hygyrchedd ar weithlu’r Bwrdd Iechyd. Ystyriodd y grŵp ddadansoddiad o amser teithio, effaith staffio bosibl, a risg staffio bosibl. Nododd y grŵp y byddai effaith ar y rheini sy’n draddodiadol yn gallu gweithio’n lleol i’w cartrefi a’r rheini sy’n disgwyl teithio yn gysylltiedig â’u proffesiynau. Bydd gwahanol strategaethau i leihau'r effaith hon yn cael eu mabwysiadu wrth i'r gwaith fynd rhagddo. Roedd y grŵp yn ei chael yn amhendant i ddweud a fyddai safle ymhellach i'r dwyrain yn cael mwy o effaith ar sicrhau gweithlu cynaliadwy yn gyffredinol, gan gynnwys ar gyfer recriwtio.
    • Arfarniad Ariannol/Economaidd – canolbwyntiodd y grŵp hwn ar arfarnu'r broses a'r canlyniadau a allai fod yn ofynnol ar gyfer cyllid cyfalaf a'r camau nesaf mewn caffael tir. Canfu fel canran o gostau amcangyfrifedig cyffredinol y datblygiad, nad oedd llawer i wahaniaethu rhwng gwahanol safleoedd.
Dilynwch ni ar:
Rhannwch: