Neidio i'r prif gynnwy

Beth allaf i ei wneud i gymryd mwy o ran yn y gwaith o drawsnewid gwasanaethau iechyd?

Mae Siarad Iechyd / Talking Health yn gynllun cynnwys ac ymgysylltu sy’n rhoi cyfle i bobl leol ddweud eu dweud ar sut mae gwasanaethau iechyd lleol yn cael eu cynllunio, eu datblygu a’u darparu. Mae’n bwysig ein bod yn gwrando ar farn a syniadau pobl yn ein cymunedau, a gweithredu arnynt, i’n helpu i wella’r hyn a wnawn.

Bydd yr aelodau'n cael y newyddion diweddaraf am eu gwasanaethau iechyd a byddant yn gallu cymryd rhan mewn trafodaethau parhaus am faterion iechyd trwy ddigwyddiadau, paneli darllenwyr, grwpiau diddordeb ac arolygon. I ymuno â’r cynllun:

  • Llenwch y ffurflen ar-lein hon
  • Ebost: hyweldda.engagement@wales.nhs.uk
  • Ffôn: 01554 899 056 (gadewch neges a byddwn yn dychwelyd eich galwad fel nad oes yn rhaid i chi dalu am yr alwad)
  • Post: FREEPOST HYWEL DDA HEALTH BOARD
Dilynwch ni ar:
Rhannwch: