Mae Achos Busnes Rhaglen ar wahân yn canolbwyntio ar wasanaethau iechyd meddwl yn cael ei ddatblygu ac mae darpariaeth iechyd meddwl o fewn cyfleusterau cymunedol yn destun trafodaeth bellach.
Fodd bynnag, bydd darpariaeth gwasanaeth cymunedol yn cynnwys datblygu Canolfannau Iechyd Meddwl Cymunedol fel bod pobl yn gallu cael cymorth a thriniaeth mewn amgylchedd cartrefol sy'n agos at eu cartref.
Ar hyn o bryd mae cyfleusterau iechyd meddwl ar safleoedd ysbytai presennol Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli, ac Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd. Bydd datblygu'r model ymhellach yn pennu a ddylai'r gwasanaethau newydd fod o fewn y safleoedd hynny neu yn rhywle arall yn y gymuned leol.
Byddai canolfannau iechyd a lles cymunedol hefyd yn cynnig cyngor a chymorth iechyd meddwl.