Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw hybiau cymunedol?

Rydym eisiau i bob un o’n saith ardal gael un neu fwy o ganolfannau iechyd a lles neu ysbytai cymunedol – gyda’n gilydd rydym yn cyfeirio at y rhain fel hybiau cymunedol. Efallai eu bod i gyd ychydig yn wahanol, yn unol ag anghenion eu cymunedau, ond byddant yn dod â phobl a gwasanaethau ynghyd mewn un lle ac yn darparu cysylltiadau rhithwir rhwng y boblogaeth a’r rhwydwaith cymorth cymunedol ehangach.

Bydd timau amlddisgyblaethol o wahanol staff a gwasanaethau cymorth yn amlapio unigolion a theuluoedd.

Yn ogystal â darparu mynediad at ddiagnosteg (profion a sganiau ac ati) ac ymgynghoriadau, bydd gan ganolfannau hefyd welyau cymunedol i atal unigolion rhag gorfod mynd i'r ysbyty, ac i gefnogi rhyddhau amserol o'r ysbyty. Gall y rhain fod yng nghartrefi pobl eu hunain, mewn cartrefi nyrsio a phreswyl lleol, neu mewn rhai o'r canolfannau iechyd a lles.

Gallai’r ystod o wasanaethau gynnwys rhai neu bob un o’r canlynol:

  • Clinigau cleifion allanol a ategir gan brofion diagnostig a sganiau, gan gynnwys pelydrau-x
  • Triniaeth ar gyfer mân salwch a mân anafiadau
  • Gofal ataliol ac wedi’i gynllunio i bobl sy’n byw gyda chyflyrau hirdymor
  • Arhosiad dros nos i gleifion na allant aros gartref ond nad oes angen gofal ysbyty arnynt (gofal cam i fyny), adsefydlu ar ôl arhosiad yn yr ysbyty (gofal cam-i-lawr) a byw â chymorth
  • Cyngor a chefnogaeth iechyd meddwl
Dilynwch ni ar:
Rhannwch: