Neidio i'r prif gynnwy

Os yw adrannau damweiniau ac achosion brys mor fregus ar hyn o bryd, a oes siawns y gallent gau neu gael eu cydgrynhoi cyn bod ysbyty newydd yn barod?

Nid yw ein cynlluniau’n cynnwys cau unrhyw un o’n gwasanaethau argyfwng a gofal brys presennol cyn cytuno ar unrhyw ddewisiadau amgen newydd, megis ysbyty newydd, a’u rhoi ar waith.

Ar yr un pryd, rydym yn wynebu pwysau digynsail, gan gynnwys ein hymateb i’r pandemig COVID-19 a’r effaith y mae hyn yn ei chael ar ein staffio a sut y gallwn ddarparu gofal yn ddiogel. Bydd ein clinigwyr a’n rheolwyr yn parhau i wneud penderfyniadau gweithredol ac ymateb i amgylchiadau newidiol bob dydd er mwyn sicrhau y gallwn drin ein cleifion yn ddiogel. Yn y cyd-destun hwn mae'n anodd iawn gwneud gwarantau absoliwt ond ein bwriad yw cadw'r adrannau damweiniau ac achosion brys presennol ar agor cyn yr ysbyty newydd.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: