Neidio i'r prif gynnwy

Pam fod y cynllun hwn yn costio cymaint o arian?

Mae adeiladu amgylcheddau gofal iechyd o safon uchel fel ysbytai bob amser yn ddrud. Mae hyn oherwydd bod yn rhaid iddynt gydymffurfio â llawer o safonau technegol a chlinigol. Mae angen llawer iawn o offer uwch-dechnoleg megis sganwyr MRI (Delweddu Cyseiniant Magnetig) a CT (Tomograffeg Gyfrifiadurol), a bydd angen i’n hysbytai hefyd fod ar flaen y gad o ran technoleg ddigidol.

Byddwn, wrth gwrs, yn ceisio sicrhau gwerth am arian ar gyfer ein cymunedau, a bydd angen inni brofi hyn a rhoi cyfrif am ein gwariant.

Yn y cyfnod cynnar hwn credwn y gallai'r rhaglen gyfan gostio £1.3 biliwn neu fwy i'w chyflawni. Mae amrywiaeth o gyfleoedd posibl, prosbectws o opsiynau, o fewn yr Achos Busnes Rhaglen. Mae hyn yn cynnig cyfle gwych i fuddsoddi mewn busnes a swyddi yng nghanolbarth a de-orllewin Cymru gan na welwyd y lefel hon o fuddsoddiad yn y maes hwn o’r blaen. Byddai hyn o fudd nid yn unig i’r rhai ohonom sydd yma heddiw, ond hefyd i’r cenedlaethau sydd i ddod.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: