Neidio i'r prif gynnwy

Sut bydd hyn yn helpu'r amgylchedd?

Drwy’r trawsnewid hwn y mae’r bwrdd iechyd yn credu y gall gefnogi’r gwaith o gyflawni strategaeth datgarboneiddio GIG Cymru. Wrth ei gwraidd ein strategaeth yw darparu gwasanaethau yn nes adref ac ail-gydbwyso ein system i un sy’n canolbwyntio ar atal ac ymyrraeth gynnar. Credwn fod hyn nid yn unig yn well i gleifion ond bydd hefyd yn effeithio llai ar yr amgylchedd.

Mae ein hadeiladau presennol, yn enwedig Glangwili, ymhlith yr hynaf a lleiaf effeithlon yng Nghymru. Mae'r cynlluniau sydd gennym ar gyfer cyfleusterau newydd a gwell yn cynnig y cyfle i leihau'n sylweddol ôl troed carbon ac effeithiau amgylcheddol ein hystâd. Bydd dyluniad adeiladau newydd yn cael ei alw’n ‘glyfar’ neu’n ‘ddeallus.’ Trwy hyn, golygwn y gallant gefnogi darpariaeth technoleg a chasglu data, sy’n cefnogi ac yn gwella rhediad gweithredol a diogelwch yr adeiladau. Mae adeiladau clyfar yn creu amgylcheddau sy'n gallu rhyngweithio â'r bobl sydd ynddynt, dysgu oddi wrthynt, ac addasu i'w hanghenion newidiol. Gall systemau rheoli gwybodaeth mewn adeiladau gynyddu cysur, effeithlonrwydd, gwydnwch a diogelwch. Gallant integreiddio goleuadau, pŵer, diogelwch, diogelwch tân, gwresogi, awyru a chyflyru aer.

Rydym am i’n cymunedau fod yn rhan o ddylunio ein hadeiladau, a phan fydd yr Ysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd yn cael ei adeiladu a gweddill ein hystâd yn cael ei wella, rydym am i’n cyfleusterau deimlo fel eu bod yn asedau cyhoeddus, yn agored i’r gymuned; ac yn gysylltiedig â'r amgylchedd naturiol lleol. Yn wir, rydym yn gweld cyfle, drwy fabwysiadu egwyddorion dylunio ‘bioffilig’ ar gyfer yr ysbyty newydd a safleoedd eraill, i ddarparu amgylchedd tawelach a mwy dymunol i gleifion a staff, a fydd o fudd i ofal gan leihau amseroedd adfer a’r defnydd o feddyginiaeth.

Fel rhan o’r PBC mae pwysigrwydd trafnidiaeth yn cael ei gydnabod, ac mae gan y Bwrdd Iechyd uchelgais i gefnogi’r newid i garbon isel a theithio llesol. Rydym yn ymwybodol nad yw llawer o gartrefi yn Hywel Dda yn cael budd o fynediad at gar ac rydym yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru i wneud y gorau o’r cyfle i gleifion, ymwelwyr a staff ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gael mynediad at ein gwasanaethau.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: