Adnoddau iaith arwyddion prydain (BSL)

Bachgen yn gwisgo cymorth clyw yn sefyll wrth ymyl symbol BSL

Mae'r dudalen hon yn dwyn ynghyd gynnwys Iaith Arwyddion Prydain (BSL) i gefnogi ymgysylltiad ystyrlon â phobl sy'n defnyddio BSL fel eu hiaith gyntaf neu eu hiaith ddewisol.

Mae'r fideos a'r adnoddau a rennir yma wedi'u datblygu i helpu i sicrhau bod gwybodaeth yn hygyrch, yn glir ac yn barchus, ac i gefnogi cyfranogiad mewn gwasanaethau iechyd, ymgysylltu a gwneud penderfyniadau.

Os hoffech rannu eich barn trwy ddefnyddio fideo BSL, cysylltwch â ni ar y cyfeiriad e-bost hyweldda.ymgysylltu@wales.nhs.uk fel y gallwn drefnu'r ffordd fwyaf cyfleus i chi wneud hyn.