Neidio i'r prif gynnwy

Opsiynau A a B

Roedd dau opsiwn y gwnaethom ymgynghori arnynt yn wreiddiol yn 2025 fel rhan o’n Cynllun Gwasanaethau Clinigol, sef Opsiwn A ac Opsiwn B. Aeth yr opsiynau hyn i’n cyfarfod Bwrdd Eithriadol i’w trafod ym mis Chwefror 2026.

Roedd Opsiwn A yn cynnwys unedau trin a throsglwyddo yn ysbytai Bronglais a Glangwili, ac unedau strôc (gwasanaeth cyflenwi arbenigol 12 awr y dydd) yn ysbytai Tywysog Philip a Llwynhelyg.

Roedd Opsiwn B yn cynnwys unedau trin a throsglwyddo yn ysbytai Bronglais a Glangwili, uned strôc (gwasanaeth cyflenwi arbenigol 24 awr y dydd) yn Ysbyty Tywysog Philip ac uned trin a throsglwyddo a strôc (gwasanaeth cyflenwi arbenigol 12 awr y dydd) yn Ysbyty Llwynhelyg. O dan yr opsiwn hwn byddai cleifion yn Ysbyty Llwynhelyg yn cael eu trosglwyddo i Ysbyty Tywysog Philip ar gyfer eu gofal cychwynnol cyn dychwelyd i Ysbyty Llwynhelyg i gael gofal pellach ac adsefydlu strôc.

Yn y ddau opsiwn, byddai ysbytai Bronglais a Glangwili yn dod yn ysbytai ‘trin a throsglwyddo’ ar gyfer strôc.

Yn Opsiwn B, byddai Ysbyty Llwynhelyg hefyd yn dod yn ysbyty ‘trin a throsglwyddo’ ar gyfer strôc. Byddai hyn yn golygu, yn dilyn asesiad cychwynnol, y byddai cleifion strôc sydd angen gofal acíwt yn cael eu trosglwyddo i rywle arall o fewn Hywel Dda (yn wahanol rhwng ein hopsiynau, fel yr amlinellwyd uchod) neu i ganolfan thrombectomi, megis yng Nghaerdydd neu Fryste, yn unol â’u hanghenion.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: