Mae gennym deulu - Teulu Jones – a’u ffrindiau sy’n ein helpu i brofi a dangos sut y gallai gwahanol wasanaethau iechyd effeithio ar rywun fel chi neu’ch anwyliaid. Dydyn nhw ddim yn deulu go iawn, ond maen nhw wedi’u cynllunio i fod yn nodweddiadol o’r cleifion rydyn ni’n gofalu amdanynt yn ardal Hywel Dda a’r cymunedau cyfagos.
At ddiben y broses ymgysylltu hon, rydyn ni wedi newid lleoliad rhai aelodau o’r teulu a ffrindiau, fel y gallwn ddangos enghreifftiau o effeithiau ar bobl ar draws ein hardal ac yng nghymunedau cyfagos Powys a Gwynedd.
Sylwch fod astudiaethau achos profiad claf ar gyfer Powys a Gwynedd yn berthnasol i bobl a all fod yn byw y tu allan i ardal Hywel Dda yn unig. Mae’r cleifion hyn naill ai’n cael eu cludo i Ysbyty Bronglais mewn ambiwlans, neu gan aelod o’r teulu. Os byddwch yn derbyn eich gofal strôc cychwynnol gan fwrdd iechyd cyfagos, gall y lleoliad ar gyfer eich gofal a’ch triniaeth barhaus fod yn wahanol. I gael gwybod sut y gallai eich llwybr gofal amrywio yn dibynnu ar ble rydych yn cael triniaeth gyntaf, cysylltwch â’ch bwrdd iechyd lleol - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys neu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Ers cyhoeddi dogfen ymgynghori’r Cynllun Gwasanaethau Clinigol ym mis Mai 2025, mae rhai llwybrau clinigol wedi datblygu. Mae’r llwybr presennol a ddisgrifir isod yn ein hastudiaethau achos Teulu Jones yn wahanol i’r hyn a oedd yn y ddogfen ymgynghori flaenorol.
Yma gallwch ddarllen sut beth yw gofal i gleifion strôc ar hyn o bryd, yn seiliedig ar eich prif safle ysbyty Hywel Dda:
Ar gyfer Aziz o dan Opsiwn 210…
Mae ambiwlans yn mynd ag Aziz i Bronglais, ac mae’n cael ei gymryd yn syth i’r sganiwr CT, yn hytrach nag i’r Adran Argyfyngau. Os cadarnheir strôc, mae triniaeth thrombolysis yn cael ei ddechrau tra yn yr adran sganio. Yna mae Aziz yn cael ei symud i’r Uned Strôc 12/7 Ysbyty Bronglais (12 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos).
Os nad yw Aziz wedi cael strôc, mae’n mynd yn ôl i’r Adran Argyfyngau yn Ysbyty Bronglais am brofion pellach.
Os yw Aziz wedi cael strôc mwy difrifol (gyda rhwystr mawr mewn pibell waed, sef math o strôc lle mae llif y gwaed i brif rhydweli yn yr ymennydd yn cael ei atal), mae’n cael ei gludo mewn ambiwlans o Bronglais yn syth i’r ganolfan thrombectomi ym Mryste neu Gaerdydd. Mae thrombectomi yn driniaeth y gellir ei defnyddio i drin y mathau hyn o strôc. Darperir y gofal hwn yn rhanbarthol ar gyfer Cymru a rhanbarthau de a gorllewin Lloegr ym Mryste a Chaerdydd.
Unwaith y mae tîm thrombectomi Bryste neu Gaerdydd yn asesu bod Aziz yn addas i gael ei ryddhau o’u gofal, mae’n cael ei drosglwyddo yn ôl i’r Uned Strôc yn Glangwili neu Bronglais neu’n syth adref, yn dibynnu ar ei adferiad yn dilyn thrombectomi.
Os nad thrombectomi yw’r driniaeth gywir i Aziz, mae’n cael ei drosglwyddo i Uned Strôc 24/7 Glangwili i gael ei driniaeth strôc acíwt ac yna yn ôl i Uned Strôc 12/7 yn Bronglais (12 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos).
Mae’n bosibl y bydd modd rhyddhau Aziz adref gyda chymorth y Tîm Rhyddhau Cynnar â Chymorth a Tîm Strôc Cymunedol Integredig.
Ar gyfer Sonia o dan Opsiwn 210…
Mae ambiwlans yn mynd â Sonia i Llwynhelyg, ac mae’n cael ei chymryd yn syth i’r Adran Argyfyngau am asesiad, cyn ei throsglwyddo am sgan CT. Os yw strôc yn cael ei gadarnhau, mae’r driniaeth yn dechrau tra yn yr adran sganio. Mae Sonia wedyn yn cael ei symud i’r Adran Argyfyngau cyn cael ei throsglwyddo i’r Uned Strôc 24/7 yn Ysbyty Glangwili (24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos).
Os nad yw Sonia wedi cael strôc, mae’n mynd i’r Adran Argyfyngau yn Ysbyty Llwynhelyg am brofion pellach.
Os yw Sonia wedi cael strôc mwy difrifol (gyda rhwystr mawr mewn pibell waed, sef math o strôc lle mae llif y gwaed i brif rhydweli yn yr ymennydd yn cael ei atal), mae’n cael ei chludo mewn ambiwlans o Llwynhelyg yn syth i’r ganolfan thrombectomi ym Mryste neu Gaerdydd. Mae thrombectomi yn driniaeth y gellir ei defnyddio i drin y mathau hyn o strôc. Darperir y gofal hwn yn rhanbarthol ar gyfer Cymru a rhanbarthau de a gorllewin Lloegr ym Mryste a Chaerdydd.
Unwaith y mae tîm thrombectomi Bryste neu Gaerdydd yn asesu bod Sonia yn addas i gael ei rhyddhau o’u gofal, mae’n cael ei throsglwyddo i Glangwili neu’n syth adref, yn dibynnu ar ei hadferiad yn dilyn thrombectomi.
Os nad thrombectomi yw’r driniaeth gywir i Sonia, mae’n cael ei throsglwyddo i’r Uned Strôc 24/7 yn Glangwili (24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos) i gael ei thriniaeth strôc acíwt ac adsefydlu.
Mae’n bosibl y bydd Sonia’n gallu cael ei rhyddhau adref gyda chymorth gan y Tîm Rhyddhau Cynnar â Chymorth a gwasanaethau cymunedol ehangach.
Ar gyer Rhys o dan Opsiwn 210…
Mae ambiwlans yn mynd â Rhys i Glangwili, ac mae’n cael ei gludo’n syth i’r Adran Argyfyngau am asesiad cyn gael ei drosglwyddo i gael sgan CT. Os cadarnheir strôc a bod angen triniaeth thrombolysis ar Rhys, mae hyn yn digwydd yn yr Adran Argyfyngau.
Os nad yw Rhys wedi cael strôc, mae’n mynd i Adran Argyfyngau Ysbyty Glangwili am brofion pellach.
Os yw Rhys wedi cael strôc mwy difrifol (gyda rhwystr mawr mewn pibell waed, sef math o strôc lle mae llif y gwaed i brif rhydweli yn yr ymennydd yn cael ei atal), mae’n cael ei gludo mewn ambiwlans i’r ganolfan thrombectomi ym Mryste neu Gaerdydd. Mae thrombectomi yn driniaeth y gellir ei defnyddio i drin y mathau hyn o strôc. Darperir y gofal hwn yn rhanbarthol ar gyfer Cymru a rhanbarthau de a gorllewin Lloegr ym Mryste a Chaerdydd.
Unwaith y mae tîm thrombectomi Bryste neu Gaerdydd yn asesu bod Rhys yn addas i gael ei ryddhau o’u gofal, mae’n cael ei drosglwyddo yn ôl i Glangwili neu’n syth adref, yn dibynnu ar ei hadferiad yn dilyn thrombectomi.
Os nad thrombectomi yw’r driniaeth gywir i Rhys, yna mae’n aros yn yr Uned Strôc yn Ysbyty Glangwili i gael ei driniaeth strôc aciwt ac adsefydlu. Mae’n bosibl y bydd Rhys yn gallu cael ei ryddhau adref gyda chymorth y Tîm Rhyddhau Cynnar â Chymorth a gwasanaethau cymunedol ehangach.
Ar gyfer Alun o dan Opsiwn 210…
Mae ambiwlans yn mynd ag Alun i Tywysog Philip, ac mae’n cael ei gymryd yn syth i’r Uned Asesu Meddygol Acíwt, cyn cael ei drosglwyddo am sgan CT. Yna mae Alun yn cael ei ddychwelyd i’r Uned Asesu Meddygol Acíwt cyn ei drosglwyddo i’r Uned Strôc yn Glangwili. Os cadarnheir strôc a bod angen triniaeth thrombolysis ar Alun, mae hyn yn digwydd yn yr Uned Asesu Meddygol Acíwt.
Os nad yw Alun wedi cael strôc, mae’n parhau i fod o dan ofal y tîm meddygol yn yr Uned Asesu Meddygol Acíwt.
(*Os yw cleifion yn hunan-gyflwyno yn yr Uned Mân Anafiadau yn Tywysog Philip, mae’r staff yn actifadu’r alwad strôc a byddant yn dilyn yr un broses â chlaf sy’n cyrraedd mewn ambiwlans.)
Os yw Alun wedi cael strôc mwy difrifol (gyda rhwystr mawr mewn pibell waed, sef math o strôc lle mae llif y gwaed i brif rhydweli yn yr ymennydd yn cael ei atal), mae’n cael ei gludo mewn ambiwlans o Tywysog Philip yn syth i’r ganolfan thrombectomi ym Mryste neu Gaerdydd. Mae thrombectomi yn driniaeth y gellir ei defnyddio i drin y mathau hyn o strôc. Darperir y gofal hwn yn rhanbarthol ar gyfer Cymru a rhanbarthau de a gorllewin Lloegr ym Mryste a Chaerdydd.
Unwaith y bydd tîm thrombectomi Bryste neu Gaerdydd yn asesu bod Alun yn addas i gael ei ryddhau o’u gofal, mae’n cael ei drosglwyddo i Glangwili neu’n syth adref, yn dibynnu ar ei adferiad ar ôl thrombectomi.
Os nad thrombectomi yw’r driniaeth gywir i Alun, mae’n cael ei drosglwyddo i’r Uned Strôc 24/7 yn Glangwili (24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos) ar gyfer triniaeth strôc acíwt. Mae’n bosibl y bydd Alun yn gallu cael ei ryddhau adref gyda chymorth y Tîm Rhyddhau Cynnar â Chymorth a gwasanaethau cymunedol ehangach.
Ar gyfer Mari o dan Opsiwn 210...
Mae ambiwlans yn mynd â Mari i Ysbyty Bronglais, ac mae’n cael ei chludo’n syth at y sganiwr CT, yn hytrach nag i’r Adran Argyfyngau. Os caiff strôc ei chadarnhau, mae triniaeth thrombolysis yn dechrau tra yn yr adran sganio. Mae Mari wedyn yn cael ei symud i’r Uned Strôc 12/7 (12 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos).
Os nad yw Mari wedi cael strôc, mae’n mynd i’r Adran Argyfyngau yn Ysbyty Bronglais am brofion pellach.
Os yw Mari wedi cael strôc mwy difrifol (gyda rhwystr mawr mewn pibell waed, sef math o strôc lle mae llif y gwaed i brif rhydweli yn yr ymennydd yn cael ei atal), mae’n cael ei gludo mewn ambiwlans o Ysbyty Bronglais i’r ganolfan thrombectomi ym Mryste neu Gaerdydd. Mae thrombectomi yn driniaeth y gellir ei defnyddio i drin y mathau hyn o strôc. Darperir y gofal hwn yn rhanbarthol ar gyfer Cymru a rhanbarthau de a gorllewin Lloegr ym Mryste a Chaerdydd.
Unwaith y bydd tîm thrombectomi Bryste neu Gaerdydd yn asesu bod Mari yn addas i gael ei ryddhau o’u gofal, mae’n cael ei throsglwyddo i’r Uned Strôc yn Ysbyty Glangwili neu Ysbyty Bronglais neu’n syth adref yn dibynnu ar ei adferiad yn dilyn thrombectomi.
Os nad thrombectomi yw’r driniaeth gywir i Mari, yna bydd yn cael ei drosglwyddo i’r Uned Strôc yn Ysbyty Glangwili ar gyfer triniaeth strôc acíwt ac yna yn ôl i Ysbyty Bronglais (12 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos).
Yn dilyn ei thriniaeth strôc yn Ysbyty Bronglais, ac unwaith mae Mari yn sefydlog yn feddygol, bydd gofal strôc pellach Mari yn cael ei drefnu gyda’i Bwrdd Iechyd lleol (Bwrdd Iechyd Addysgu Powys).
Os hoffech ddeall sut y gall eich gofal strôc fod yn wahanol, yn dibynnu ar ble rydych yn cael mynediad at y gofal cychwynnol, cysylltwch â Bwrdd Iechyd Addysgu Powys am wybodaeth ac arweiniad.
Ar gyfer Ishani o dan Opsiwn 210...
Mae ambiwlans yn mynd ag Ishani i Ysbyty Bronglais, ac mae’n cael ei chludo’n syth at y sganiwr CT, yn hytrach nag i’r Adran Argyfyngau. Os caiff strôc ei chadarnhau, mae triniaeth thrombolysis yn dechrau tra yn yr adran sganio. Mae Ishani wedyn yn cael ei symud i’r Uned Strôc 12/7 (12 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos).
Os nad yw Ishani wedi cael strôc, mae’n mynd i’r Adran Argyfyngau yn Ysbyty Bronglais am brofion pellach.
Os yw Ishani wedi cael strôc mwy difrifol (gyda rhwystr mawr mewn pibell waed, sef math o strôc lle mae llif y gwaed i brif rhydweli yn yr ymennydd yn cael ei atal), mae’n cael ei gludo mewn ambiwlans o Ysbyty Bronglais i’r ganolfan thrombectomi ym Mryste neu Gaerdydd. Mae thrombectomi yn driniaeth y gellir ei defnyddio i drin y mathau hyn o strôc. Darperir y gofal hwn yn rhanbarthol ar gyfer Cymru a rhanbarthau de a gorllewin Lloegr ym Mryste a Chaerdydd.
Unwaith y bydd tîm thrombectomi Bryste neu Gaerdydd yn asesu bod Ishani yn addas i gael ei ryddhau o’u gofal, mae’n cael ei throsglwyddo i Uned Strôc yn Ysbyty Glangwili neu Bronglais neu’n syth adref yn dibynnu ar ei adferiad yn dilyn thrombectomi.
Os nad thrombectomi yw’r driniaeth gywir i Ishani, yna bydd yn cael ei drosglwyddo i’r Uned Strôc yn Ysbyty Glangwili ac yna yn ôl i Ysbyty Bronglais (12 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos).
Yn dilyn ei thriniaeth strôc acíwt yn Ysbyty Bronglais, ac unwaith mae Ishani yn sefydlog yn feddygol, bydd gofal strôc pellach Ishani yn cael ei drefnu gyda’i Bwrdd Iechyd lleol (Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr).
Os hoffech ddeall sut y gall eich gofal strôc fod yn wahanol, yn dibynnu ar ble rydych yn cael mynediad at y gofal cychwynnol, cysylltwch â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am wybodaeth ac arweiniad.
Gallwch wneud hyn drwy: