Neidio i'r prif gynnwy

Profiad fel claf strôc i rywun sy'n byw'n agosach i Ysbyty Bronglais nag i ysbyty arall

Mae Aziz yn 68 oed ac mae’n gweithio ym mwyty y teulu ac yn mwynhau gofalu am ei wyrion. Mae ei wraig yn sylwi nad yw ei hun un prynhawn, mae un ochr ei wyneb wedi cwympo, ac mae’n siarad yn aneglur. Mae hi’n poeni y gallai fod wedi cael strôc ac yn ffonio 999. Mae Aziz yn byw yn Aberystwyth.

Ar hyn o bryd…
Mae ambiwlans yn mynd ag Aziz i Bronglais, ac mae’n cael ei gymryd yn syth i’r sganiwr CT, yn hytrach nag i’r Adran Argyfyngau. Os cadarnheir strôc, mae triniaeth thrombolysis yn cael ei ddechrau tra yn yr adran sganio. Yna mae Aziz yn cael ei drosglwyddo i’r Uned Strôc yn Ysbyty Bronglais ar gyfer gofal parhaus.

Mae’n cael profion ac asesiadau pellach gan y tîm strôc, ond nid bob amser gan feddyg strôc (y tu allan i oriau mae hyn yn cael ei ddarparu gan y tîm meddygol ar alwad), a byddai’n cael cymorth therapi.

Yn dibynnu ar ddifrifoldeb y strôc, efallai y mae angen iddo aros yn yr ysbyty am beth amser neu mae’n cael ei gefnogi i gael ei ryddhau’n gynnar gan dîm cymunedol.

Os nad yw Aziz wedi cael strôc, mae’n mynd i’r Adran Argyfyngau yn Bronglais am brofion pellach.

Os yw Aziz wedi cael strôc mwy difrifol (gyda rhwystr mawr mewn pibell waed, sef math o strôc lle mae llif y gwaed i brif rhydweli yn yr ymennydd yn cael ei atal), mae’n cael ei gludo mewn ambiwlans o Ysbyty Bronglais i ganolfan thrombectomi ym Mryste neu Gaerdydd. Mae thrombectomi yn driniaeth y gellir ei defnyddio i drin y mathau hyn o strôc. Darperir y gofal hwn yn rhanbarthol ar gyfer Cymru a rhanbarthau de a gorllewin Lloegr ym Mryste a Chaerdydd.

Unwaith y mae tîm thrombectomi Bryste neu Gaerdydd yn asesu bod Aziz yn addas i gael ei ryddhau o’u gofal, mae’n cael ei drosglwyddo yn ôl i Bronglais neu’n syth adref yn dibynnu ar ei adferiad ar ôl thrombectomi.

Os nad thrombectomi yw’r driniaeth gywir ar gyfer Aziz, yna bydd yn cael ei drosglwyddo i’r Uned Strôc yn Ysbyty Bronglais ar gyfer ei driniaeth strôc acíwt.

Mae’n bosibl y bydd modd rhyddhau Aziz adref gyda chymorth y Tîm Strôc Cymunedol Integredig.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: