Rydym yn darparu gwasanaethau delweddu diagnostig ledled ein pedwar ysbyty cyffredinol dosbarth, gyda gwasanaethau delweddu ychwanegol mewn nifer o ysbytai cymunedol, gan gynnig amrywiaeth o wasanaethau CT, MRI ac uwchsain, yn ogystal â meddygaeth niwclear mewn amryw o leoliadau.
Mae'r Bwrdd Iechyd wedi'i gysylltu â'r Academi Ddelweddu Genedlaethol ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac mae'n meithrin perthnasoedd cryf â byrddau iechyd cyfagos trwy amrywiaeth o strategaethau i wella'r gwasanaethau ar gyfer poblogaeth Gorllewin Cymru.
Os byddwch yn ymuno â'r tîm yn Hywel Dda, gallwch fod yn sicr o gael croeso cynnes, a hynny nid yn unig yn y gweithle ond yn y gymuned hefyd.
Rydym yn cefnogi ac yn annog datblygiad i wneud y defnydd gorau o'r adnoddau sydd ar gael ar ein cyfer, ac yn annog gweithio ar draws safleoedd, yn ogystal â gyda byrddau iechyd cyfagos, a hynny er mwyn i'r staff gael profiadau ym mhob maes.
Cewch gyfle i ymgymryd â gwaith addysg a datblygu gyda radiograffwyr a staff cymorth medrus iawn.
Yn y fideo hwn, mae Dr Hashim Samir (BIP Hywel Dda – Radiolegydd Ymgynghorol Parhaol) yn siarad am ei daith o'i adleoli ei hun a'i deulu i Orllewin Cymru o'r Dwyrain Canol.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:
Ebost: RecruitmentCampaigns.hdd@wales.nhs.uk