Neidio i'r prif gynnwy

Niwroffisioleg recriwtio

Rydym yn chwilio am Ffisiolegydd Clinigol (Niwroffisioleg) brwdfrydig a phrofiadol i ymuno â'n tîm bychan, cyfeillgar ond prysur yn Ysbyty Glangwili yng Ngorllewin Cymru.

Mae Gorllewin Cymru yn un o rannau harddaf y DU, gyda'i thraethau arobryn, ei chefn gwlad rhagorol, ei mynyddoedd a'i llynnoedd, ac mae'n lle hynod o ddeniadol a fforddiadwy i fyw a gweithio ynddo. Mae'n rhan o'r DU sy'n denu miloedd lawer o dwristiaid bob blwyddyn.

Rydym yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 384,000 ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, a ni yw'r cyflogwr mwyaf yng Ngorllewin Cymru (mae gennym dros 12,000 o staff).

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: