Neidio i'r prif gynnwy

Endosgopi recriwtio

Mae Gorllewin Cymru yn un o rannau harddaf y DU, gyda'i thraethau arobryn, ei chefn gwlad rhagorol, ei mynyddoedd a'i llynnoedd, ac mae'n lle hynod o ddeniadol a fforddiadwy i fyw a gweithio ynddo.

Rydym yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 384,000 ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, a ni yw'r cyflogwr mwyaf yng Ngorllewin Cymru (mae gennym dros 12,000 o staff).

Mae gennym bedair uned ledled y Bwrdd Iechyd, sy'n darparu ystod o driniaethau endosgopig gastroberfeddol diagnostig a therapiwtig.

Mae gennym dîm gwych o feddygon a nyrsys brwdfrydig, gan gynnwys nyrsys arbenigol sgrinio coluddion a nyrsys endosgopi. Mae gennym gyfleoedd i nyrsys ymuno â'r tîm ardderchog hwn ar draws pob un o'r pedwar safle, ac mae pob croeso i chi gysylltu â ni.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: