Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau eraill yn gweithredu fel arfer

Mae Uned Asesu Meddygol Acíwt Ysbyty Tywysog Philip yn darparu gofal brys i gleifion meddygol sâl iawn sy’n oedolion, fel y rhai sydd wedi cael strôc neu drawiad ar y galon. Mae hwn yn parhau i fod yn wasanaeth 24/7 ac nid yw'n rhan o'r newid dros dro hwn.

Mae cleifion yn cael eu cludo i’r uned hon yn uniongyrchol gan y gwasanaeth ambiwlans, neu’n cael eu hatgyfeirio gan eu Meddyg Teulu neu gan y gwasanaeth Tu Allan i Oriau.

Bydd y gwasanaeth Tu Allan i Oriau lleol yn parhau i weithredu o’r Ysbyty yn Llanelli a gellir ei gyrchu trwy ffonio GIG 111 Cymru pan nad yw eich meddygfa ar agor (rhwng 6.30pm ac 8.00am dydd Llun i ddydd Gwener, ar benwythnosau a Gwyliau Banc).

Dim ond trwy drefniant gyda GIG 111 Cymru y gwelir cleifion gan nad yw hwn yn wasanaeth ‘galw i mewn’.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: