Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn rhannu canfyddiadau ei ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau strôc cyn cyfarfod y Bwrdd yn ddiweddarach y mis hwn. Mae'r adroddiad yn cynnwys adborth o Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro ac ardaloedd byrddau iechyd cyfagos, ac yn amlinellu'r hyn sydd bwysicaf i'r bobl a gymerodd ran.
Rhannodd mwy na 3,000 o bobl eu barn yn ymgynghoriad y Bwrdd Iechyd ar opsiwn a ffefrir ar gyfer dyfodol gwasanaethau strôc. Yn rhedeg o 28 Mai i 26 Gorffennaf 2026, derbyniodd yr ymgynghoriad fwy na 700 o ymatebion i holiaduron, a chynhwysodd dros 120 o ddigwyddiadau a gweithgareddau ymgysylltu.
Mae'r adborth wedi'i nodi yn Adroddiad Ymgynghoriad Strôc Cam 2 a bydd y Bwrdd yn ei ystyried, ochr yn ochr ag adborth o gam cyntaf yr ymgynghoriad ac ystod eang o wybodaeth ychwanegol, yn ei gyfarfod ar 26 Tachwedd.
Mae hyn yn cynnwys ymatebion sy'n gysylltiedig â gwasanaethau strôc a gasglwyd drwy ymgynghoriad y Cynllun Gwasanaethau Clinigol yn ystod haf 2025, y dystiolaeth glinigol, y data a'r asesiadau effaith diweddaraf. Bydd yr holl wybodaeth yn helpu i lywio penderfyniad y Bwrdd ar ddyfodol gwasanaethau strôc ledled Hywel Dda.
Mae adroddiad Ymgynghoriad Strôc Cam 2 (yn agor mewn dolen newydd) ar gael ar-lein yn Saesneg yn unig.
Mae gwasanaethau strôc yn fregus ac ar hyn o bryd nid ydynt yn bodloni safonau clinigol cenedlaethol. Mae'r angen am newid yn cael ei yrru gan dystiolaeth bod canlyniadau cleifion yn gwella pan fydd gwasanaethau arbenigol strôc wedi’u crynhoi mewn canolfannau sydd â mynediad at yr ystod lawn o dimau arbenigol ac offer arbenigol.
Trwy gydol yr ymgynghoriad, rhannodd staff, cleifion, teuluoedd a gofalwyr eu profiadau personol o wasanaethau strôc ac o effeithiau strôc a all droi bywyd ben i waered.
Cyfranogwr a rannodd ei phrofiad yw Ruth Evans o Arberth, y mae ei mam wedi profi cyfres o ymosodiadau isgemig dros dro (TIA), a dywedodd: "Wedi i mam, sy'n 90 oed, ddioddef tri ymosodiad isgemig dros dro (TIA) neu 'fân strôc' o fewn wythnos a mynd i'r ysbyty – gwelais y gwahaniaeth rhwng cael ymosodiad yn ystod oriau gwaith a chael un y tu allan i’r oriau hynny lle nad oes staffio strôc arbenigol. Mae’n brofiad hollol wahanol i'r claf.
"Fe wnes i fynd â hi i Ysbyty Llwynhelyg am y tro cyntaf ar ddydd Iau, yn ystod y dydd, a gwelwyd arbenigwr strôc, roedd y gofal a gawsom yn anhygoel.
"Fodd bynnag, pan aethon ni ar y dydd Sadwrn, roedd yn hollol wahanol. Roedd gennym lwybr llawer gwell i ofal strôc ar ein hymweliad cyntaf ar y dydd Iau.
"Yn ffodus, mae fy mam yn gwella, ac mae'r meddyg ymgynghorol strôc yn Llwynhelyg wedi bod yn wych. Mae'n anodd os na allwch weld eich anwyliaid, ond ar ddiwedd y dydd, beth sydd bwysicaf, eu gweld nhw, neu eu bod yn cael y gofal gorau."
Ar hyn o bryd darperir gwasanaethau strôc yn ysbytai Bronglais, Glangwili, Tywysog Philip a Llwynhelyg. Fodd bynnag, nid yw'r gwasanaethau hyn yn bodloni safonau clinigol cenedlaethol yn gyson ac nid oes staffio strôc arbenigol ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.
Fel yn y llwybr presennol, o dan yr holl opsiynau sy'n cael eu hystyried, byddai pobl lle’r amheuir strôc yn dal i fynd i'w hysbyty addas agosaf ar gyfer asesiad cychwynnol a thriniaeth, os oes angen, cyn unrhyw drosglwyddo i uned strôc arbenigol. Os oes angen triniaeth arbenigol fel thrombectomi, bydd cleifion yn parhau i gael eu trosglwyddo i ganolfannau arbenigol ym Mryste neu Gaerdydd.
Mae cael y gofal cywir yn gyflym yn rhoi'r cyfle gorau i bobl wella. Dros amser mae gofal strôc wedi datblygu'n sylweddol, ac mae tystiolaeth yn dangos bod cleifion yn cael canlyniadau gwell pan fyddant yn derbyn gofal mewn unedau strôc arbenigol gyda mynediad at dimau arbenigol ac offer arbenigol.
Dywedodd Lee Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Chynllunio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Ar draws Hywel Dda, mae angen i ni wella mynediad at ofal strôc arbenigol, fel bod ein gwasanaethau'n ddiogel, yn gynaliadwy, yn hygyrch ac yn garedig i gleifion a staff.
"Hoffwn ddiolch i bawb wnaeth roi o’u hamser i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn a rhannu eu barn ar ddyfodol gwasanaethau strôc. Mae hyn yn cynnwys cydweithwyr, cleifion, gofalwyr, rhanddeiliaid, sefydliadau cymunedol a grwpiau ymgyrchu. Mae'r safbwyntiau, y profiadau a'r dystiolaeth a rannwyd gyda ni wedi gwneud cyfraniad pwysig i'r broses ystyriaeth gydwybodol.
"Mae ystyriaeth gydwybodol yn seiliedig ar yr Egwyddorion Gunning, sy'n helpu i sicrhau bod ymgynghoriadau cyhoeddus yn cael eu cynnal yn deg ac yn gyfreithlon. Mae'n broses sy'n digwydd fel bod safbwyntiau a rennir yn ystod yr ymgynghoriad yn cael eu hystyried yn briodol cyn gwneud penderfyniadau.
"Mae'r adroddiad ymgynghori yn adlewyrchu ystod eang o farn a phrofiadau, ac mae'r adborth a gafwyd wedi rhoi mewnwelediad gwerthfawr i'r materion sydd bwysicaf i'n cymunedau.
"Rydym yn gwybod bod yr adroddiad ymgynghori yn cynnwys llawer o wybodaeth, ac rydym yn ei gyhoeddi nawr i roi cyfle i bobl ddarllen y canfyddiadau cyn ystyriaeth y Bwrdd ar ddyfodol gwasanaethau strôc yn ddiweddarach y mis hwn.
"Rydym yn cydnabod cryfder y teimlad a'r diddordeb yn y cynigion hyn, a hoffwn roi sicrwydd i bobl nad oes unrhyw benderfyniad wedi'i wneud. Pa opsiwn bynnag a ddewisir, byddai'r asesiad cychwynnol a'r driniaeth lle’r amheuir strôc yn aros yr un fath. Mae'r cynigion yn canolbwyntio ar y gofal strôc arbenigol sy'n dilyn."
Bydd papurau'r Bwrdd a dolen i'r darllediad byw o'r cyfarfod ar gael ar wefan y Bwrdd Iechyd ddydd Gwener 20 Tachwedd 2026.
I gael rhagor o wybodaeth am yr Ymgynghoriad Cam 2 ar wasanaethau strôc, ewch i dudalennau gwe’r Bwrdd Iechyd (yn agor mewn dolen newydd).