Mae’r Ymchwiliad i Waed Heintiedig yn ymchwiliad cyhoeddus annibynnol a sefydlwyd i archwilio’r amgylchiadau pan roddwyd cynhyrchion gwaed heintiedig i ddynion, menywod a phlant a gafodd driniaeth gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn y Deyrnas Unedig rhwng 1970 a 1991.
Cyhoeddir Adroddiad Terfynol yr Ymchwiliad yn y Neuadd Ganolog, San Steffan, ar 20 Mai 2024.