Isod mae rhestr o linellau cymorth, sefydliadau ac elusennau lleol a chenedlaethol a all gefnogi eich iechyd meddwl a'ch lles.
Sylwch nad yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu unrhyw un o'r gwasanaethau a restrwyd. Cysylltwch â'r sefydliad a restrir yn uniongyrchol i gael gwybodaeth a chymorth gan y gwasanaeth hwnnw.
I weld y gwasanaethau a'r cymorth a ddarperir gan Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ewch i Tudalen we ein gwasanaethau (yn agor mewn dolen newydd). Efallai y bydd angen atgyfeiriad meddyg teulu arnoch i gael mynediad at rai o'r gwasanaethau hyn.
Os oes angen cymorth iechyd meddwl brys arnoch neu os nad ydych yn siŵr ble i droi i gael cyngor ac arweiniad ar eich iechyd meddwl chi neu rywun arall, ffoniwch GIG 111 Cymru a phwyso 2. Mewn argyfwng sy'n peryglu bywyd, deialwch 999 bob amser.