Canolfan Gofal Brys

Ysbyty Tywysog Philip - Canolfan Gofal Brys (CGB)

Cyfeiriad: Ysbyty Tywysog Philip, Bryngwyn Mawr, Dafen, Llanelli, SA14 8QF
Ffôn: 01554 756567 (ymholiadau cyffredinol)

Oriau agor

  • 8am i 8pm, saith diwrnod yr wythnos
  • Does dim angen apwyntiad.

Mae Canolfan Gofal Brys Ysbyty Tywysog Philip yn wasanaeth galw heibio sy'n darparu asesu a thriniaeth ar gyfer llawer o fân anafiadau, salwch brys i oedolion a phroblemau meddygol sydd angen sylw prydlon ond nad ydynt yn peryglu bywyd.

Gall plant sydd â mân anafiadau gael eu trin yn y Ganolfan Gofal Brys, ond ar gyfer plant o dan 16 oed sydd â thymheredd uchel, poen stumog, cur pen, brech neu salwch cysylltwch â GIG Cymru 111, neu ewch â nhw at eu meddyg teulu, neu os yw'n briodol eu Adran Achosion Brys agosaf.

Mae'r gwasanaeth yn darparu asesiad, diagnosis a thriniaeth ar gyfer ystod o anghenion iechyd brys.
Byddwch yn cael eich asesu gan glinigydd a'ch trin neu efallai y cewch eich ailgyfeirio i'r gofal mwyaf priodol ar gyfer eich anghenion.

 

Pryd ddylwn i ddefnyddio'r Ganolfan Gofal Brys?


Gall y Ganolfan Gofal Brys fel arfer helpu os ydych chi gyda:

  • Toriadau a chlwyfau.
  • Mân losgiadau a sgaldiau.
  • Brathiadau a pigiadau.
  • Meddwl y gallai fod gennych asgwrn wedi torri neu anaf i'r cymalau.
  • Mân anaf i'r llygaid.
  • Problemau anadlu neu haint ar y frest.
  • Haint wrinol.
  • Haint croen.
  • Cur pen neu meigryn.
  • Teimlo'n pendro neu wedi llewygu 
  • Angen asesiad brys ar yr un diwrnod a/neu driniaeth ar gyfer cyflwr nad oes angen aros dros nos yn yr ysbyty.

Byddwch yn cael eich asesu gan glinigydd a gallwch gael profion neu ymchwiliadau lle bo hynny'n briodol.

 

Pryd ddylwn i ddefnyddio gwasanaeth arall?


Nid yw'r Ganolfan Gofal Brys yn Adran Achosion Brys.

Peidiwch â defnyddio'r gwasanaeth gofal brys ar yr un diwrnod ar gyfer:

  • unrhyw salwch neu anaf sy'n peryglu bywyd sydd angen triniaeth mewn adran achosion brys. Mae hyn yn cynnwys poen yn y frest a allai fod yn gysylltiedig â'r galon, arwyddion o strôc, anhawster anadlu difrifol, gwaedu trwm neu drawma mawr. Mewn argyfwng sy'n peryglu bywyd, ffoniwch 999 bob amser.
  • poen abdomenol difrifol.
  • Materion sy'n gysylltiedig â beichiogrwydd. Cysylltwch â'ch bydwraig neu feddyg teulu. Mae help a chyngor hefyd ar gael 24/7 – ewch i  dudalen we Gwasanaethau Mamolaeth - pwy i gysylltu yma (agor mewn dolen newydd) i gael manylion am bwy i gysylltu yn ystod beichiogrwydd.
  • plentyn sâl (o dan 16 oed) - dylai meddyg teulu ei weld, neu gysylltu â GIG Cymru 111, neu ymweld ag Adran Achosion Brys os yw'n briodol.
  • argyfwng iechyd meddwl. Defnyddiwch wasanaethau argyfwng pwrpasol neu ffoniwch opsiwn 2 GIG 111 Cymru (agor mewn dolen newydd) i gael cymorth iechyd meddwl brys.

Ffoniwch 999 os ydych chi, neu rywun sydd gyda chi, yn wynebu argyfwng sy'n bygwth bywyd, neu wedi dioddef trawma difrifol.


Ddim yn siŵr ble i fynd?


Os nad ydych yn siŵr pa wasanaeth sy'n iawn i chi:

  • Defnyddiwch wiriwr symptomau GIG Cymru.
  • Ffoniwch GIG Cymru 111 am gyngor.
  • I gael cymorth iechyd meddwl brys, ffoniwch GIG Cymru 111 a dewiswch Opsiwn 2.

Gall gwasanaeth 111 GIG Cymru eich helpu i'ch cyfeirio at y gwasanaeth mwyaf priodol ar gyfer eich anghenion.


Eich helpu i chi

Ydych chi'n ansicr a yw Canolfan Gofal Brys yn addas ar gyfer eich anghenion? Gellir dod o hyd i wybodaeth am wasanaethau amgen sydd ar gael yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro ar ein tudalen we Helpwch ni i'ch helpu chi yma (agor mewn dolen newydd).

Weithiau mae pobl yn mynd i Ganolfan Gofal Brys pan nad yw eu salwch neu anaf yn frys.  

Byddwch yn cael eich cynghori os gall gwasanaeth gofal iechyd arall ymdrin â'ch salwch neu anaf yn lleol. Byddwch hefyd yn cael gwybodaeth am sut i gael mynediad at y gwasanaeth(au) sy'n fwy priodol i'ch anghenion.

Bydd hyn yn ein helpu i gadw'r gwasanaeth i'r rhai sydd angen triniaeth frys. 


Dod o hyd i ni

Ysbyty Tywysog Philip
Bryngwyn Mawr
Dafen
Llanelli
SA14 8QF
 


Cyn mynychu

Cofiwch: mae'r Ganolfan Gofal Brys ar gyfer cyflyrau brys ond nad ydynt yn peryglu bywyd. Os ydych chi'n credu bod rhywun yn profi argyfwng sy'n peryglu bywyd, ffoniwch 999 ar unwaith bob amser.