Mae ein bwrdd iechyd wedi cwblhau rhaglen helaeth o waith dros ddwy flynedd gyda’r Rhaglen Genedlaethol COVID-19 Nosocomiaidd, i adolygu’r nifer anarferol o uchel o ddigwyddiadau diogelwch cleifion gydag amheuaeth o COVID-19 nosocomiaidd a gofnodwyd ar ddechrau’r pandemig.
Cynlluniwyd y rhaglen i gefnogi sefydliadau GIG Cymru i ymgymryd â dyletswyddau i ymchwilio i ddigwyddiadau diogelwch cleifion gydag amheuaeth o COVID-19 nosocomiaidd mewn ffordd gymesur, gan ddarparu cymaint o atebion â phosibl i gleifion, teuluoedd, gofalwyr a staff yr effeithir arnynt gan COVID-19 nosocomiaidd, yn ogystal â gwneud y mwyaf o gyfleoedd ar gyfer dysgu a gwella.
Mae themâu dysgu cenedlaethol, gan gynnwys arferion da, wedi’u crynhoi yn Adroddiad Dysgu Diwedd y Rhaglen Genedlaethol COVID-19 Nosocomiaidd sydd bellach wedi’i gyhoeddi.
Cliciwch yma i weld Rhaglen COVID 19 Nosocomial Genedlaethol (agor mewn dolen newydd).
Bydd yr hyn a ddysgwyd o ymchwiliadau yn cael effaith sylweddol ar brofiadau pobl, ansawdd gwasanaethau, a diogelwch cleifion a defnyddwyr gwasanaeth sy'n derbyn gofal.
Mae'r sefydliad yn parhau i ymchwilio i ddigwyddiadau diogelwch cleifion COVID-19 nosocomiaidd y tu allan i ddyddiadau'r rhaglen fel rhan o brosesau adolygu nodweddiadol.
Gall cleifion yr effeithiwyd arnynt, eu teuluoedd a’u gofalwyr y cysylltwyd â hwy fel rhan o’r rhaglen ein cyrraedd o hyd os ydynt yn dymuno trafod unrhyw ymholiadau neu bryderon, drwy ddefnyddio’r manylion isod:
Fel rhan o GIG Cymru, rydym yn estyn ein diolch a’n gwerthfawrogiad diffuant i gleifion, teuluoedd, gofalwyr a chydweithwyr yn GIG Cymru sydd wedi ymgysylltu â’r broses ymchwilio.
Cliciwch yma i weld ein Cwestiynau Cyffredin (agor mewn dolen newydd).
Cliciwch yma i weld tudalen Lleisio cwyn neu bryder (Gweithio i Wella) (agor mewn dolen newydd).
Cliciwch yma i weld Eiriolaeth cwynion a chefnogaeth trwy Llais (agor mewn dolen newydd).
Cliciwch yma i weld dudalen cymorth profedigaeth (agor mewn dolen newydd).