Yr wythnos hon, bydd pobl yng ngrŵp blaenoriaeth 3 (75 i 79 oed) yn dechrau mynychu un o'n chwe chanolfan frechu i gael eu dos cyntaf o'r brechlyn.
Deallwn y bydd hyn yn golygu teithio ychwanegol neu fynd i rywle anghyfarwydd i rai pobl, pan nad ydych efallai wedi ymweld â llawer o fannau cyhoeddus ers dechrau'r pandemig.
Byddwch yn dawel eich meddwl bod ein canolfannau brechu torfol yn amgylcheddau diogel, gyda lle i gynnal pellter cymdeithasol wrth ganiatáu i fwy o bobl gael eu brechu mor effeithlon a chyn gynted â phosib.
Mae'r canolfannau brechu torfol hyn yn hanfodol i lwyddiant y rhaglen frechu. Os cewch eich gwahodd i gael eich brechlyn mewn canolfan brechu torfol, mae hynny oherwydd eich bod mewn grŵp blaenoriaeth ac mewn mwy o berygl o gymhlethdodau os ydych chi'n dal COVID-19, felly mae'n hanfodol eich bod chi'n gwneud pob ymdrech i ddod.
Bydd BIP Hywel Dda yn gwneud cyhoeddiad ddechrau’r wythnos nesaf i hysbysu pobl yng ngrŵp blaenoriaeth 4 (rhwng 70 a 74 oed a phobl sy'n fregus iawn yn glinigol) sut a phryd y cânt eu gwahodd i gael y brechlyn.