Croeso i rifyn 27 o fwletin Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel dda ar y brechlyn
Bydd y digwyddiad wythnosol hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â chynnydd y Rhaglen Brechu Torfol COVID-19 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
Er mwyn helpu holl drigolion Hywel Dda i gael mynediad hawdd a hyblyg i frechlyn COVID-19, mae clinigau brechlyn cerdded i mewn dos cyntaf ac ail yn rhedeg ym mhob canolfan brechu torfol Hywel Dda ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn ogystal a chlinigau iechyd cynenedigol a meddyliol pwrpasol mewn lleoliadau dethol.
Dros yr wythnosau nesaf, bydd rhai o’r ganolfannau yn cau ar gyfer hyfforddiant staff ac wrth i’r nifer o bobl sy’n mynychu apwyntiadau cerdded i mewn leihau.
Plis gwiriwch ar ein wefan a chyfryngau cymdeithasol am unrhyw newidiadu i amseroedd agor y ganolfannau (agor mewn dolen newydd) cyn i chi deithio.
Cysywlltwch â'r bwrdd iechyd drwy un o'r ffyrdd canlynol i ofyn am apwyntiad
Ffurflen gais ar-lein ar gyfer dos cyntaf (agor mewn dolen newydd)
Ffurflen gais ar-lein ar gyfer ail ddos - os cawsoch eich brechlyn cyntaf 8 wythnos neu fwy yn ôl (agor mewn dolen newydd)
Rhif Ffôn: 0300 303 8322
E-bost: COVIDenquiries.hdd@wales.nhs.uk
Bydd fan brechu symudol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, mewn partneriaeth â Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, wedi’i lleoli yn Llanybydder rhwng dydd Iau 15 a dydd Sadwrn 17 Gorffennaf.
Bydd y clinig brechu symudol wedi’i leoli ym Maes Parcio Teras Yr Orsaf, SA40 9XX (agor mewn dolen newydd) a bydd ar agor rhwng 11.00am a 7.00pm. Nid oes angen cysylltu â'r bwrdd iechyd i drefnu apwyntiad.
Bydd y fan frechu yn rhoi’r brechlyn i unrhyw un sy'n 18 oed neu'n hŷn sy'n gofyn am ddos gyntaf neu ail ddos (Moderna a AstraZeneca Rhydychen). Gellir rhoi ail ddosau 8 wythnos ar ôl y dos cyntaf.
Mae dros 500 o frechlynnau wedi'u rhoi hyd yma gan ddefnyddio'r fan brechu symudol mewn lleoliadau yn Cross Hands a Doc Penfro.
Gyda chodiad mewn nifer achosion ledled y DU, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn annog pobl i ddod i gael eu dos gyntaf neu ail ddos cyn gynted â phosibl
Mae Pàs COVID y GIG (agor mewn dolen newydd) yn eich galluogi i ddangos i eraill eich bod wedi cael brechlyn COVID-19 pan fyddwch yn teithio dramor. Os cawsoch eich brechu yng Nghymru ac rydych yn 16 oed neu’n hŷn, gallwch gael Pàs COVID digidol y GIG. Mae NHS Digital yn gweithio gyda GIG Cymru i wneud trefniadau rhannu data rhwng Cymru a Lloegr. Gall pawb a gafodd ei frechu yng Nghymru neu Loegr sydd wedi’i gofrestru â meddyg teulu yng Nghymru gael pàs COVID digidol drwy wefan y GIG, a hynny ers 23 Mehefin 2021. Bydd pawb sydd wedi’i gofrestru â meddyg teulu yn Lloegr ond a gafodd ei frechu yng Nghymru yn gallu cael tystiolaeth o’u statws brechu COVID drwy wefan y GIG (agor mewn dolen newydd, saesneg yn unig) o ddydd Llun 12 Gorffennaf ymlaen.
Grŵp Blaenoriaeth |
Nifer â frechwyd gyda'r dôs gyntaf |
Canran derbyn dôs gyntaf |
Nifer â frechwyd gyda'r ail dôs |
Canran derbyn yr ail dôs |
---|---|---|---|---|
P1.1 Preswylwyr cartrefi gofal sy'n oedolion hŷn |
2,489 | 96.4% | 2,160 | 83.7% |
P1.2 - Gweithwyr cartrefi gofal |
3,485 | 99.7% | 3,223 | 92.2% |
P2.1 - Pob un 80 oed a hŷn |
22,831 | 99.9% | 21,943 | 96% |
P2.2 a 2.3 - Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol |
25,879 | 98.8% | 24,480 | 93.4% |
P3 - Pob un 75 oed a hŷn |
18,683 | 95.7% | 18,216 | 93.3% |
P4.1 - Pob un 70 oed a hŷn |
25,030 | 95.2% | 24,521 | 93.3% |
P4.2 - Unigolion eithriadol o agored i niwed yn glinigol |
8,714 | 88% | 8,354 | 84.3% |
P5 – Pob un 65 oed a hŷn |
21,697 | 90.9% | 21,146 | 88.5% |
P6 - pob unigolyn rhwng 16 a 64 oed â chyflyrau iechyd sylfaenol sy'n eu rhoi mewn mwy o berygl o glefyd difrifol a marwolaeth (grwpiau mewn risg) a gofalwyr di-dâl |
38,858 | 87.1% | 35,810 | 80.3% |
P7 - Pob un 60 oed a hŷn |
13,415 | 69% | 13,108 | 67.4% |
P8 - Pob un 55 oed a hŷn |
14,896 | 80.1% | 14,329 | 77% |
P9 - Pob un 50 oed a hŷn |
15,023 | 92.4% | 14,052 | 86.4% |
P10 - Grwpiau blaenoriaeth eraill neu heb eu dyrannu |
69,874 | 45.5% | 24,410 | 15.9% |
45 - 49 oed | 11,155 | 70.5% | 9,017 | 57% |
40 - 44 oed | 10,397 | 68.4% | 6,839 | 45% |
35 - 39 oed | 10,809 | 67% | 3,844 | 23.2% |
30 - 34 oed | 10,862 | 63.9% | 2,651 | 15.2% |
25 - 29 oed | 10,046 | 57.6% | 1,447 | 8.3% |
20 - 24 oed | 11,587 | 61.4% | 1,351 | 7.2% |
15 - 19 oed | 5,029 | 33.3% | 441 | 2.9% |
Cyfanswm: | 280,875 | 72.5% | 225,752 | 58.3% |