Croeso i rifyn 23 o fwletin Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar y brechlyn.
Bydd y diweddariad wythnosol hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â chynnydd y Rhaglen Brechu Torfol COVID-19 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro
Mae hon wedi bod yn wythnos hanesyddol i raglen frechu Cymru, gyda phob oedolyn cymwys yng Nghymru wedi cael cynnig brechlyn erbyn dydd Llun 14 Mehefin - chwe wythnos yn gynt na'r disgwyl.
Mae Cymru hefyd yn arwain y byd o ran niferoedd y bobl sy'n cael eu brechu mewn gwlad o fwy na miliwn o bobl. Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod mwy na 2.2 miliwn o bobl yng Nghymru wedi cael eu dos cyntaf a bod 1.44 miliwn o bobl bellach wedi'u brechu'n llawn.
Nid yw’n rhy hwyr i unrhyw un sydd wedi newid eu meddwl ynglŷn â chael brechlyn i gael apwyntiad - mae gan Gymru bolisi “gadael neb ar ôl” felly os hoffech ofyn am frechlyn cyntaf gwnewch hynny cyn gynted â phosibl trwy gwblhau y ffurflen gais ar-lein hon (agor mewn dolen newydd).
Os na allwch chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod lenwi ein ffurflen gais ar-lein, ffoniwch y bwrdd iechyd ar 0300 303 8322 a rhannwch y neges hon gyda ffrindiau, teulu a'ch cymuned leol i sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl.
Gyda'r cynnydd mewn achosion ledled y DU mae'n bwysig bod cymaint o bobl yn dod ymlaen am eu brechlynnau cyntaf ac ail pan gânt eu gwahodd.
Wrth siarad yr wythnos hon, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan: “Gydag ymddangosiad diweddar o amrywiad newydd gyda’r potensial i ddod yn straen dominyddol yn y DU gan achosi COVID-19, rydym wedi cael ein hatgoffa unwaith eto pa mor gyflym y gall y feirws newid a rhoi pwysau ar ein cynlluniau.
“Mae risg o hyd o drydedd don gyda mwy o drosglwyddo a straen ar ein ysbytai. Bydd brechiadau yn helpu i gyfyngu ar ledaeniad y feirws. Byddwn hefyd yn parhau i fod yn wyliadwrus o ran amrywiadau newydd eraill a allai ddod i'r amlwg a allai effeithio ar amddiffyn brechlynnau cyfredol. ”
Diolch i bawb yng nghanolbarth a gorllewin Cymru sydd wedi dod ymlaen hyd yma i gael eu brechlyn. Mae’n bwysig bod pob oedolyn cymwys yn dod ymlaen cyn gynted â phosibl ar gyfer eu brechlyn.
Ein nod, fel gyda grwpiau 1 i 9 yw sicrhau o leiaf 75% o bobl rhwng 18 a 49 oed. Er bod y nifer sydd wedi derbyn brechlyn COVID-19 yng Nghymru yn parhau i fod yn uchel iawn, mae nifer o bobl ar draws pob ystod oedran sydd, er gwaethaf derbyn mwy nag un cynnig, yn parhau heb eu brechu.
Gwelodd y tywydd cynhesach a dechrau Ewro 2020 ostyngiad yn nifer y bobl sy'n mynychu apwyntiadau neu un o'n clinigau cerdded i mewn y penwythnos hwn. Peidiwch ag oedi eich apwyntiad neu ohirio cael eich brechlyn.
Yn ddealladwy, bydd llawer o gwestiynau am y brechlyn COVID-19, yn enwedig ar gyfer pobl iau a iach.
Mae brechlynnau'n ddiogel, yn effeithiol ac yn achub bywydau. Mae brechlynnau'n dysgu'ch system imiwnedd sut i'ch amddiffyn rhag afiechydon. Mae'n llawer mwy diogel i'ch system imiwnedd ddysgu hyn trwy frechu na thrwy ddal yr afiechydon a cheisio eu trin.
Ers cyflwyno brechlynnau, mae afiechydon fel y frech wen a pholio a arferai ladd neu analluogi miliynau o bobl wedi mynd o'r DU.
Mae'r ymateb tymor hir i'r pandemig yn ei gwneud yn ofynnol bod brechlyn diogel ac effeithiol ar gael i bawb sydd ei angen.
Os ydych yn ansicr a ddylid cael y brechlyn, rydym yn eich annog yn gryf i wneud apwyntiad brechlyn lle byddwch yn gallu siarad â'n staff brechu arbenigol. Byddwn yn sicrhau bod eich cwestiynau'n cael eu hateb ac yn sicrhau bod gennych yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud y penderfyniad iawn i chi.
Gallwch hefyd ddod o hyd i atebion i'r cwestiynau a ofynnir amlaf (Iechyd Cyhoeddus Cymru, agor mewn dolen newydd).
Os ydych dros 18 oed neu yn un o grwpiau blaenoriaeth 1 i 9 y JCVI a heb gael apwyntiad brechlyn cyntaf, gofynnwch am un cyn gynted â phosib trwy lenwi’r ffurflen ar-lein hon (agor mewn dolen newydd). Rydym yn deall na fydd gan bawb fynediad i'r rhyngrwyd. Os na allwch chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod lenwi ein ffurflen gais ar-lein, ffoniwch y bwrdd iechyd ar 0300 303 8322. Rhannwch y neges hon gyda ffrindiau, teulu a'ch cymuned leol i sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl.
Mae apwyntiadau ail ddos ar gyfer COVID-19 fel arfer yn digwydd tua 11 wythnos ar ôl yr apwyntiad dos cyntaf. Mae'n hanfodol eich bod chi'n mynychu'ch apwyntiad ail ddos.
Os cawsoch eich dos cyntaf mewn canolfan brechu torfol ar neu cyn 28 Mawrth ac nad ydych eto wedi cael eich gwahodd am ail ddos, defnyddiwch y ffurflen gais hon i roi gwybod i ni (agor mewn dolen newydd). Os na allwch chi neu gydnabod i chi ddefnyddio ffurflen ar-lein, cysylltwch â'n tîm bwcio ar 0300 303 8322.
Grŵp Blaenoriaeth |
Nifer â frechwyd gyda'r dôs gyntaf |
Canran derbyn dôs gyntaf |
Nifer â frechwyd gyda'r ail dôs |
Canran derbyn yr ail dôs |
---|---|---|---|---|
P1.1 Preswylwyr cartrefi gofal sy'n oedolion hŷn |
2,489 | 96.4% | 2,135 | 82.7% |
P1.2 - Gweithwyr cartrefi gofal |
3,461 | 99.1% | 3,127 | 89.5% |
P2.1 - Pob un 80 oed a hŷn |
22,811 | 99.8% | 21,753 | 95.25 |
P2.2 a 2.3 - Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol |
25,746 | 98.3% | 23,220 | 88.6% |
P3 - Pob un 75 oed a hŷn |
18,657 | 95.6% | 18,092 | 92.7% |
P4.1 - Pob un 70 oed a hŷn |
25,006 | 95.1% | 24,322 | 92.5% |
P4.2 - Unigolion eithriadol o agored i niwed yn glinigol |
8,682 | 87.7% | 8,288 | 83.1% |
P5 – Pob un 65 oed a hŷn |
21,640 | 90.6% | 20,748 | 86.9% |
P6 - pob unigolyn rhwng 16 a 64 oed â chyflyrau iechyd sylfaenol sy'n eu rhoi mewn mwy o berygl o glefyd difrifol a marwolaeth (grwpiau mewn risg) a gofalwyr di-dâl |
38,357 | 86% | 32,134 | 72% |
P7 - Pob un 60 oed a hŷn |
13,373 | 68.7% | 12,307 | 63.3% |
P8 - Pob un 55 oed a hŷn |
14,782 | 79.5% | 10,353 | 55.7% |
P9 - Pob un 50 oed a hŷn |
14,666 | 90.2% | 2,095 | 12.9% |
P10 - Grwpiau blaenoriaeth eraill neu heb eu dyrannu |
62,219 | 40.5% | 2,738 | 1.8% |
45 - 49 oed | 11,031 | 69.8% | 598 | 3.8% |
40 - 44 oed | 10,153 | 66.8% | 510 | 3.4% |
35 - 39 oed | 10,426 | 64.6% | 459 | 2.8% |
30 - 34 oed | 10,233 | 60.2% | 386 | 2.25 |
25 - 29 oed | 8,847 | 50.7% | 377 | 2.2% |
20 - 24 oed | 8,580 | 45.5% | 289 | 1.5% |
15 - 19 oed | 2,947 | 19.5% | 119 | 0.85 |
Cyfanswm: | 271,890 | 70.2% | 181,252 | 46.8% |