Croeso i’r 12fed rhifyn o fwletin Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar y brechlyn.
Bydd y diweddariad wythnosol hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â chynnydd y Rhaglen Brechu Torfol COVID-19 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
Mae 185,005 o bobl y tair sir bellach wedi cael eu dos cyntaf o'r brechlyn, ac mae 39,301 o bobl wedi'u brechu'n llawn ar ôl cael y ddau ddos.
Mae'r nifer sy'n derbyn y brechlyn yn parhau i fod yn uchel a chredwn y bydd o leiaf 80% o bob grŵp blaenoriaeth 1 i 9 wedi cael eu dos cyntaf erbyn carreg filltir 2 o Strategaeth Frechu Genedlaethol Llywodraeth Cymru (agor mewn dolen newydd), y gellir gweld diweddariad ohoni yma.
Byddwn wedi cynnig dos cyntaf o'r brechlyn i bawb yng ngrwpiau blaenoriaeth 5 i 9 erbyn dydd Sul 18 Ebrill. Mae hyn yn cynnwys:
Byddwch yn amyneddgar - os na chysylltwyd â chi eto ynglŷn â'ch brechlyn, gofynnwn yn gwrtais i chi beidio â chysylltu â'r bwrdd iechyd na'ch meddygfa i ofyn am eich brechlyn. Cysylltir â chi pan fydd eich tro chi.
Dylai pawb yng ngrwpiau 5 i 9 ddisgwyl cael eu apwyntiad brechlyn erbyn Llun y Pasg, sef 5 Ebrill.
Er mwyn sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl, ddydd Mawrth 6 Ebrill, bydd y bwrdd iechyd yn lansio apêl yn gofyn i bobl yng ngrwpiau 1 i 9 na chysylltwyd â nhw i drefnu eu dos cyntaf o’r brechlyn, i gysylltu â ni. Bydd yr apêl hon yn cael ei rhannu ar ein cyfryngau cymdeithasol, mewn papurau newydd lleol ac ar orsafoedd radio lleol.
Mae ail ddos yn hanfodol ar gyfer amddiffyniad tymor hwy, felly mae'n bwysig bod pawb yn dod ymlaen ar gyfer eu cwrs llawn pan gânt eu galw.
Mae pryd y cysylltir â chi am eich ail ddos o’r brechlyn yn dibynnu ar ba frechlyn a gawsoch.
Rydym yn gofyn i unrhyw un a gafodd y brechlyn Pfizer ac nad yw wedi derbyn ail apwyntiad brechlyn eto, i gysylltu cyn gynted â phosibl ar 0300 303 8322. Sylwch fod ein llinellau ffôn yn brysur iawn ar brydiau ac efallai y bydd yn rhaid i chi aros i’r alwad gael ei hateb. Gallwch hefyd gysylltu â ni trwy e-bostio'ch enw a'ch rhif ffôn cyswllt at COVIDenquiries.hdd@wales.nhs.uk
Nod y bwrdd iechyd yw cwblhau pob ail ddos o’r brechlyn Pfizer erbyn yr wythnos sy'n dechrau ddydd Llun 12 Ebrill.
I wirio pa frechlyn a gawsoch, edrychwch ar y cerdyn a roddwyd i chi yn eich apwyntiad brechlyn cyntaf. Bydd yn dweud a wnaethoch gael y brechlyn Pfizer BioNtech neu’r brechlyn Oxford AstraZeneca.
Os cawsoch ddos cyntaf o'r brechlyn Oxford AstraZeneca, gofynnwn yn garedig i chi beidio cysylltu â'ch meddygfa na’r bwrdd iechyd ar yr adeg hon i ofyn am ail apwyntiad brechlyn. Cysylltir â chi pan fydd eich tro chi am ail ddos - rydym yn galw'r rhai a gafodd ddos cyntaf Pfizer ar yr adeg hon.
Cysylltir â phreswylwyr cartrefi gofal, pobl dros 80 oed a phob grŵp blaenoriaeth arall sydd wedi cael brechlyn Oxford AstraZeneca yn y feddygfa rhwng 11 a 12 wythnos yn dilyn eu brechlyn cyntaf gydag amser apwyntiad.
Mae mwy a mwy o hyder ynghylch effeithiolrwydd y brechlynnau. Mae tystiolaeth newydd yn glir ar effaith y brechlyn wrth atal clefydau difrifol a derbyniadau i ysbyty. Mae hyn bellach i’w weld yn nifer y derbyniadau i’n hysbytai, a diolch byth, yn nifer y marwolaethau o Coronafeirws sy’n cael eu hadrodd.
Mae rheoleiddwyr y DU a’r UE hefyd wedi bod yn glir iawn ynglŷn â diogelwch y brechlynnau. Mae buddion brechu yn llawer mwy nag unrhyw risgiau posibl. Mae'r brechlynnau'n ddiogel ac yn effeithiol.
Wrth inni agosáu at y Pasg, a mwy o gyswllt ag eraill, cofiwch olchi eich dwylo, cadw pellter cymdeithasol a gwisgo gorchudd wyneb lle bo angen. Gyda'n gilydd gallwn ddiogelu Hywel Dda.
Grŵp Blaenoriaeth |
Nifer â frechwyd gyda'r dôs gyntaf |
Canran derbyn dôs gyntaf |
Nifer â frechwyd gyda'r ail dôs |
Canran derbyn yr ail dôs |
P1.1 Preswylwyr cartrefi gofal sy'n oedolion hŷn |
2,489 | 96.4% | 1,228 | 47.6% |
P1.2 - Gweithwyr cartrefi gofal |
3,330 | 95.3% | 2,423 | 69.3% |
P2.1 - Pob un 80 oed a hŷn |
22,664 | 99.8% | 1,558 | 6.9% |
P2.2 & 2.3 - Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol |
24,198 | 98.8% | 19,400 | 79.2% |
P3 - Pob un 75 oed a hŷn |
18,294 | 93.7% | 10,977 | 56.2% |
P4.1 - Pob un 70 oed a hŷn |
24,746 | 94.1% | 398 | 1.5% |
P4.2 - Unigolion eithriadol o agored i niwed yn glinigol |
8,488 | 85.7% | 805 | 8.1% |
P5 – Pob un 65 oed a hŷn |
21,261 | 89.0% | 138 | 0.6% |
P6 - pob unigolyn rhwng 16 a 64 oed â chyflyrau iechyd sylfaenol sy'n eu rhoi mewn mwy o berygl o glefyd difrifol a marwolaeth (grwpiau mewn risg) a gofalwyr di-dâl |
34,731 | 77.8% | 1,101 | 2.5% |
P7 - Pob un 60 oed a hŷn |
12,807 | 65.8% | 107 | 0.5% |
P8 - Pob un 55 oed a hŷn | 7,517 | 40.4% | 115 | 0.6% |
P9 - Pob un 50 oed a hŷn | 1,339 | 8.2% | 122 | 0.8% |
Grwpiau blaenoriaeth eraill neu heb eu dyrannu |
3,138 | 2.0% | 930 | 0.6% |
Cyfanswm: |
185,005 | 47.8% | 39,301 | 10.1% |
Peidiwch â chysylltu â’ch meddygfa, eich fferyllfa na’r bwrdd iechyd i gael gwybod pryd fyddwch yn cael eich brechu
wythnos hon, mae gwasanaethau iechyd wedi cael eu boddi gan alwadau a negeseuon ebost gan y cyhoedd yn ymholi am y brechlyn. Rydym yn deall bod pobl yn bryderus ac eisiau gwybod pryd y gallant gael y brechlyn. Peidiwch â chysylltu â'ch meddyg teulu, fferyllfa neu fwrdd iechyd; cysylltir â chi pan fydd eich tro chi. Gwahoddir pobl i gael y brechlyn yn nhrefn blaenoriaeth, felly byddwch yn amyneddgar.