Neidio i'r prif gynnwy

Bwyta'n dda

Mae'n fwy pwysig nag erioed i chi fod yn 'Bwyta'n dda’ ar yr adeg hon. Gall dewis amrywiaeth eang o fwydydd a phrydau bwyd cytbwys eich helpu i deimlo'n well, cynyddu eich lefelau egni cymaint â phosibl, a'ch galluogi i gryfhau eich imiwnedd. Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth i chi baratoi ar gyfer eich triniaeth.

 

Awgrymiadau defnyddiol: 

  • Ceisiwch fwyta o leiaf dri phryd bwyd y dydd.  
  • Mae'n bwysig eich bod yn cynnwys carbohydradau startslyd ym mhob pryd bwyd – er enghraifft grawnfwydydd, bara, tatws, reis, chapattis a phasta. Mae dogn fel arfer yn cynnwys 2-3 llwy fwrdd/1 sleisen.  
  • Anelwch bob dydd at gael 2-3 dogn o eitemau llaeth, neu ddewisiadau amgen heb laeth ynddynt, i helpu i gryfhau iechyd eich esgyrn. Os ydych dros bwysau, dewiswch yr amrywiaethau braster is. Fel arfer, mae dogn yn golygu un pot o iogwrt, darn o gaws maint blwch matsys neu 200 ml o laeth.  
  • Ceisiwch gynnwys protein ym mhob pryd – er enghraifft cig, cyw iâr, pysgod, wyau, cnau, ffa, corbys, codlysiau, Quorn© neu tofu.  
  • Ceisiwch gynnwys o leiaf bum dogn o ffrwythau a llysiau gwahanol bob dydd. Yn fras, mae un dogn yr un faint a'ch dwrn. Mae mathau ffres, sych, tun a rhew i gyd yn addas.  
  • Anelwch at o leiaf 6-8 gwydraid o hylif trwy gydol y dydd.  
  • Argymhellir atchwanegiad o 10 microgram y dydd o fitamin D os nad ydych yn cael digon o olau haul neu os ydych yn ynysu y tu mewn. Trafodwch hyn â'ch gweithiwr gofal iechyd proffesiynol os ydych yn ansicr a ddylech gymryd atchwanegiad ai peidio. 

I gael rhagor o wybodaeth am fwyta'n iach, ewch i NHS The Eatwell Guide yma

Ryseitiau Macmillan ar gyfer pobl â chanser

Os ydych o dan bwysau, yn colli pwysau neu os yw eich archwaeth yn wael  

  • Ddylech geisio bwyta tri phryd y dydd, ynghyd â byrbrydau a diodydd maethlon rhyngddynt. Ceisiwch gynnwys cnau cymysg, iogwrt, caws a chraceri, tost, cramwyth neu laeth braster llawn, siocled poeth, ysgytlaeth neu smwddis 
  • Os ydych yn bwyta bwydydd braster isel neu fwydydd 'deiet', newidiwch i'r rhai cyfatebol sy'n llawn braster neu galorïau gan y gall yr egni ychwanegol ynddynt atal neu arafu unrhyw golli pwysau anfwriadol
  • Ceisiwch gynnwys bwydydd protein ym mhob pryd a byrbryd, er enghraifft cig, pysgod, llaeth, caws, wyau, ffa a chnau
  • Ceisiwch gyfoethogi eich bwydydd trwy fwyta calorïau ychwanegol gyda nhw, er enghraifft pasta, tatws stwnsh neu lysiau, a chaws gyda chawl. Ychwanegwch fenyn neu fargarîn at lysiau, bara neu wy wedi'i sgramblo
  • Yfwch ddiodydd ar ôl prydau bwyd yn hytrach na gyda'r prydau, fel nad ydynt yn eich llenwi. 
     

Adnoddau defnyddiol:

Os ydych yn poeni am golli pwysau, bydd y Malnutrition Universal Screening Tool yma yn rhoi'r cyngor cyntaf i chi ar sut i atal colli rhagor o bwysau. Efallai y bydd yn ofynnol i chi weld deietegydd i gael cymorth unigol. Siaradwch â'ch gweithiwr allweddol neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall os ydych yn teimlo bod arnoch angen rhagor o gymorth neu gyngor.  

Adeiladu diet ar gyfer pobl â chanser

Mae yna hefyd amrywiaeth o apiau ffonau symudol ar gael i'w lawrlwytho o Google Play neu'r Apple App Store – ewch i'n tudalen Apiau ac Adnoddau Ffordd o Fyw yma

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: