Mae ein gwasanaeth CAMHS wedi parhau i weithio gyda phlant a phobl ifanc ers dechrau'r pandemig coronafeirws. Bu'n rhaid newid y ffordd rydyn ni'n rhedeg ein gwasanaeth i gydymffurfio â rheolau'r Llywodraeth. Rydym wedi dechrau cefnogi llawer o'r bobl ifanc a gefnogwn mewn cyfarfodydd rhithiol neu dros y ffôn. Lle mae angen clinigol i weld rhywun yn bersonol yr ydym yn gwneud hynny, gan barhau i gydymffurfio gyda’r canllawiau ymbellhau cymdeithasol.
Dros yr wythnosau diwethaf rydym wedi cynnal nifer o asesiadau risg ym mhob un o'n clinigau ac wedi dechrau cyflwyno mwy o ymgynghoriadau wyneb yn wyneb lle nad yw'n bosibl darparu ymyrraeth therapiwtig o bell. Fodd bynnag, rhaid i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (NHS) ddal i gadw at y mesurau ymbellhau cymdeithasol ac, yn genedlaethol, mae gofyniad i bob ymgynghoriad ddigwydd o bell oni bai fod angen clinigol i hyn ddigwydd wyneb yn wyneb. Mae hyn yn golygu na allwn gael cymaint o bobl yn y clinigau ag arfer ac o ganlyniad mae angen i ni flaenoriaethu pa bobl ifanc a welwn yn bersonol. Gall hyn achosi oedi anorfod ac amseroedd aros hirach, felly rydym yn gofyn i unrhyw un sy'n cysylltu gyda’n gwasanaethau fod yn ystyriol o'n staff sy'n gorfod gwneud penderfyniadau anodd ar hyn o bryd ac yn gweithio'n ddiflino i geisio gweld cymaint o blant a phobl ifanc ag y bo modd.
Er mwyn sicrhau ein bod yn cadw at ganllawiau'r llywodraeth rydych yn debygol o weld rhai newidiadau pan ddewch i'n gweld nesaf. Dyma rai o’r prif negeseuon:
PEIDIWCH â mynychu Canolfan Blant oni bai eich bod wedi cael eich cynghori'n benodol i wneud hynny. Cewch wybod y trefniadau penodol gan eich Tîm CAMHS lleol neu yn eich llythyr apwyntiad. Os ydych yn ansicr, cofiwch gysylltu gyda’ch Tîm lleol am gefnogaeth.
PEIDIWCH â mynychu eich apwyntiad os ydych chi'n sâl a / neu os oes gennych symptomau coronafirws. Mae mwy o wybodaeth am symptomau coronafirws a beth i'w wneud ar gael yn:https://www.nhs.uk/conditions/coronavirus-covid-19/symptoms/
Os ydym wedi cytuno fod angen ichi gael eich gweld yn bersonol dyma enghreifftiau o'r pethau a allai fod yn wahanol: