Neidio i'r prif gynnwy

Straen wedi trawma

Ar ôl profiad trawmatig, fel bod yn sâl iawn yn yr ysbyty, gall gymryd amser i'n hymennydd brosesu'r profiad. Mae'n arferol teimlo sioc, wedi gorlethu neu’n ddideimlad, a chael atgofion a hunllefau byw a brawychus. I'r mwyafrif o bobl bydd y teimladau hyn yn dechrau mynd dros ddyddiau neu wythnosau.

I rai pobl, mae'r rhain yn parhau ac yn dechrau cael effaith ar fywyd o ddydd i ddydd. Gelwir hyn yn Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD). Dyma prif symptomau PTSD:

  • Ail-brofi’r trawma fel ôl-fflachiadau, hunllefau neu ymateb yn eich corff.
  • Osgoi meddyliau, teimladau neu atgofion o’ch profiad
  • Newidiadau negyddol yn eich meddyliau neu hwyliau e.e. pryder, euogrwydd, anniddigrwydd, hwyliau isel
  • Teimlo’n nerfus a chael eich dychryn yn hawdd. Efallai hefyd eich bod yn cael anhawster cysgu.

Techneg ar gyfer ymdopi ag atgofion anodd

Pan mae’r meddwl yn teimlo fel ei fod yn y gorffennol, gallwn ddefnyddio ein synhwyrau i’n dwyn yn ôl i’r presennol.

  • Edrychwch o’ch cwmpas am 5 peth
  • Sylwch ar 4 sain
  • Cyffyrddwch â 3 pheth (gall fod yn ddefnyddiol cario rhywbeth gyda chi sy’n eich gwneud i deimlo’n ddiogel e.e. pêl straen neu garreg fach)
  • Sylwch ar 2 arogl sy’n bleserus i chi
  • Blaswch 1 peth (e.e. gwm cnoi neu flas cryf arall)

Os oes gennych unrhyw broblemau gyda cholli arogl neu flas, cyfeiriwch at yr adran Colli Arogl a Blas.

Am wybodaeth bellach ar Anhwylder Straen Wedi Trawma yn dilyn salwch difrifol, trowch at:

Os ydych yn profi problemau a allai fod yn PTSD nad ydynt wedi dechrau mynd ymhen tua 4 wythnos, dylech geisio help eich Meddyg Teulu neu unigolion eraill sydd ynghlwm wrth eich gofal iechyd.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: