Neidio i'r prif gynnwy

Pryder

Mae teimladau o densiwn a phryder yn normal yn dilyn profiadau anodd neu brofiadau sydd wedi bygwth bywyd. Bydd y rhain, fel arfer, yn pasio. Gall pryder wneud i chi brofi teimladau sy’n newydd, a gallai’r rhain gynnwys:

  • Y teimlad o ‘pili-palod’ yn eich brest
  • Curiad calon ar ras
  • Diffyg anadl
  • Y teimlad o ‘pili-palod’ yn y stumod neu deimlo’n sâl
  • Teimlo bron llewygu
  • Crynu
  • Chwysu
  • Bod yn fwy sensitif i’ch amgylchedd

Os ydych yn parhau i deimlo bod eich symptomau yn eich llethu, cysylltwch â’ch Meddyg Teulu neu bobl eraill sydd ynghlwm wrth eich gwaith.

Beth all helpu?

  • Osgowch wylio gormod o’r newyddion neu’r cyfryngau cymdeithasol os ydyw’n gwneud i chi deimlo’n bryderus, ceisiwch wylio’r newyddion ddim ond unwaith y dydd
  • Siaradwch â’ch teulu a ffrindiau
  • Ceisiwch wneud pethau sy’n rhoi boddhad i chi a sy’n gwneud i chi ymlacio
  • Peidiwch â bod yn rhy galed ar eich hun os oes rhai pethau yr ydych yn ei chael hi’n anodd eu gwneud, cofiwch bod adfer yn cymryd amser
  • Canolbwyntiwch ar yr hyn y mae gennych reolaeth drostynt fel bwyta’n dda

Technegau ar gyfer pan rydych yn teimlo’n bryderus

Anadlu Hamddenol

Pan rydym yn pryderu neu wedi ypsetio mae ein hanadlu yn gyflymach. Gallwn deimlo’n well trwy arafu ac ymlacio ein hanadlu yn fwriadol. Mae anadlu pryderus yn digwydd i fyny yn y frest, ond mae anadlu hamddenol yn digwydd yn ddyfnach yn y bol.

  • Anadlwch mewn yn araf ac yn gyson am 4 cownt - peidiwch â rhuthro hyn
  • Cadwch hyn am 1 cownt
  • Anadlwch allan yn araf ac yn gyson am 4 cownt - anadlwch allan yn raddol
  • Gwnewch hyn drosodd a throsodd am rai munudau tan i chi sylwi newid yn eich corff
  • Os oes rhywbeth yn cymryd eich sylw, neu os ydych yn dechrau meddwl am rywbeth arall, tynnwch eich sylw yn ôl i’r teimlad o anadlu mewn ac allan

Ymlacio cyhyrau yn raddol

Mae ein cyrff yn ymateb i sefyllfaoedd straenus trwy fynd yn llawn tyndra. Ffordd dda o ymlacio’r meddwl yw i ymlacio’r corf yn fwriadol. Os oes gennych broblemau cardiaidd neu niwrolegol, cysylltwch â’ch tîm meddygol cyn rhoi cynnig ar yr ymarfer hwn.

  • Gorweddwch neu eisteddwch yn gyffyrddus
  • Canolbwyntiwch ar un rhan o’ch corff ar y tro
  • Tynhewch y cyhyrau yn y rhan hynny o’ch corff am rai eiliadau, yna ymlaciwch. Anadlwch fel arfer wrth i chi dynhau pob cyhyr
  • Ceisiwch weithio trwy’r rhannau yn eich corf yn y drefn hon:
    • Braich a llaw dde
    • Braich a llaw chwith
    • Coes dde
    • Coes chwith
    • Y stumog a’r frest
    • Y cefn a’r ysgwyddau
    • Y gwddf a’r llwnc
    • Y wyneb

Ymwybyddiaeth Ofalgar

Rydym yn aml yn cael ein hun yn meddwl am bethau sydd eisoes wedi digwydd, neu’n poeni ynghylch pethau a allai ddigwydd. Mae ymwybyddiaeth ofalgar yn ymwneud â bod yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd yn y presennol, moment-wrth-foment, heb lunio barn.

Mae gofyn ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar. Os nad ydych wedi rhoi cynnig ar fyfyrdod o’r blaen, efallai y sylwch bod eich meddwl yn crwydro ac na allwch ei reoli yn hawdd. Mae pobl sy’n ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar yn rheolaidd yn gweld ei fod yn eu helpu i allu aros yn y foment bresennol ac i ymdopi ag amrywiaeth eang o deimladau.

  • Dewiswch weithgaredd i’w wneud ag ymwybyddiaeth ofalgar trwy gydol y dydd, am un, dwy neu pum munud. Er enghraifft: Yfed disgled o de, gwrando ar gerddoriaeth, gwylio rhywbeth.
  • Beth bynnag yr ydych yn gwneud, byddwch yn y foment. Gweld, clywed, aroglu, cyffwrdd, teimlo, anadlu.
  • Sylwch pryd bynnag y daw unrhyw feddyliau neu deimladau eraill i’ch meddwl, yna canolbwyntiwch unwaith eto ar eich gweithgaredd ymwybyddiaeth ofalgar.
  • Byddwch yn amyneddgar gyda’ch hun.
  • Disgrifiwch yr hyn rydych yn sylwi arno… yn hytrach na llunio barn da neu ddrwg, pleserus neu amhleserus.
  • Mae fel y mae.
  • Fe fydd yn pasio.

Ceir mwy o ymarferion ymlacio a hunan-gymorth yma:

IAWN

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: