Neidio i'r prif gynnwy

Hwyliau Isel

Bydd y mwyafrif o bobl yn dioddef hwyliau isel ar wahanol adegau yn eu bywyd, a all fod o ganlyniad i ddigwyddiad penodol neu bod pethau’n mynd o chwith. Mae’r teimladau hyn fel arfer yn gwella o fewn pythefnos er y gallai hyn gymryd hirach ar ôl profi digwyddiad trawmatig neu fod yn sâl.

Dyma rai arwyddion cyffredin o hwyliau isel:

  • teimlo’n drist, yn grac, yn bigog, yn isel
  • diffyg egni neu flino’n hawdd
  • colli diddordeb neu fwynhad yn y pethau y byddech fel arfer yn eu mwynhau
  • anhawster canolbwyntio ar dasgau neu gynhyrfu mwy
  • dim teimlo mor dda am eich hun (colli hunan-hyder)
  • cwsg llawn tarfu a diffyg chwant bwyd
  • yfed mwy o alcohol

Gofalu am eich hwyliau a’ch llesiant

Gall gwella o salwch newid ein harferion a'n gweithgareddau arferol. Fe allwn ddarganfod bod y pethau rydyn ni'n eu gwneud fel arfer i ofalu am ein llesiant wedi dod yn anodd, yn enwedig pan mae canllawiau cadw pellter cymdeithasol yn ein rhwystro rhag cyfarfod a siarad wyneb yn wyneb ag eraill.

Beth bynnag yw eich sefyllfa, gall fod yn ddefnyddiol gwneud tern ddyddiol sy’n cynnwys cydbwysedd gweithgareddau:

  • rhoi teimlad o gyflawni
  • helpu i deimlo’n agos a mewn cysylltiad ag eraill
  • gallu gwneud rhywbeth er pleser yn unig

Dyma rai enghreifftiau o weithgareddau a allai helpu eich llesiant:

  • Anwesu anifail, cerdded ci, gwrando ar natur
  • Coginio pryd o fwyd, pobi cacen
  • Trwsio rhywbeth, gwneud rhywbeth newydd, addurno
  • Breuddwydio, myfyrio, gweddïo, ymarferion ymlacio
  • Mynd am gerddad, gwneud ioga
  • Tynnu llun neu beintio, tynnu llun â chamera, gwneud albwm lluniau, gwnïo neu wau
  • Gwrando ar eich hoff gerddoriaeth, canfod cerddoriaeth newydd, gwrando ar y radio, canu, chwarae offeryn
  • Cymryd baddon neu gawod, golchi eich gwallt, peintio eich ewinedd, eistedd yn yr haul
  • Tacluso ystafell, glanhau’r oergell, llwytho/dadlwytho’r peiriant golchi llestri, golchi dillad, tacluso cwpwrdd
  • Helpu ffrind, gwneud rhodd, dysgu sgil i rywun, gwneud rhestr o’ch pwyntiau da
  • Garddio, plannu rhywbeth, casglu blodau, eistedd yn yr awyr agored, agor ffenest
  • Gwylio’r teledu, gwylio ffilm, gwylio fideos ar-lein
  • Cysylltu â ffrind, gwneud galwad fideo, ymuno â chwis ar-lein
  • Dysgu sgil newydd, dysgu ffaith newydd, gwlio fideo tiwtorial
  • Darllen llyfr, darllen papur newydd, pori gwefannau
  • Ysgrifennu llythyr, ysgrifennu carden, ysgrifennu eich CV, dechrau ysgrifennu llyfr

Os yw eich hwyliau dal yn isel ymhen 2-4 wythnos, neu os ydych wedi sylwi eich bod wedi dechrau yfed, ‘smygu neu ddefnyddio cyffuriau i ymdopi, byddai’n ddefnyddiol siarad â’ch Meddyg Teulu neu weithiwr proffesiynol gofal iechyd arall am gymorth ychwanegol.

Mae gwybodaeth hunan-gymorth pellach ar hwyliau isel ar gael yma: http://www.iawn.wales.nhs.uk/home

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: