Os nad yw’r claf yn byw yn y DU fel arfer, bydd angen i’r Tîm Ymwelwyr Tramor wneud ymholiadau i amgylchiadau’r claf, er mwyn canfod a yw’n bodloni un o’r categorïau eithrio ynteu a oes rhaid iddo dalu am ei driniaeth.
Cyfrifoldeb y claf yw darparu tystiolaeth i gefnogi’r hawl i driniaeth ddi-dâl. Fel arall, codir tâl arno.