Neidio i'r prif gynnwy

Astudio yng Nghymru

Gallwch barhau i ddefnyddio eich cerdyn yswiriant iechyd Ewropeaidd (EHIC) neu Dystysgrif Dros Dro (PRC) i gael mynediad at ofal iechyd di-dâl gan y GIG os gwnaethoch ddechrau cwrs addysg neu hyfforddiant yng Nghymru cyn i’r DU adael yr UE. Bydd hyn yn gymwys tan ddiwedd eich cwrs, hyd yn oed os yw’n gorffen ar ôl 31 Rhagfyr 2020.

Os gwnaethoch ddechrau eich addysg neu hyfforddiant yng Nghymru ar ôl i’r DU adael yr UE, mae’n bosibl na fydd eich cerdyn EHIC yn ddilys. Dylech brynu yswiriant i dalu am eich gofal iechyd yn union fel pe baech yn ymweld â gwlad arall nad yw’n rhan o’r UE.

Gwybodaeth Bwysig

Mae’n bosibl y byddwn yn darparu gwybodaeth anghlinigol amdanoch i asiantaethau allanol er mwyn:

  • cadarnhau bod gennych hawl i driniaeth ddi-dâl dan y GIG, neu
  • adennill dyledion sy’n ddyledus i ni am driniaeth a roddwyd

Rydym bob amser yn ceisio adennill arian sy’n ddyledus am driniaeth a roddwyd. Mae’n bosibl y byddwn yn defnyddio asiantaethau casglu dyledion allanol neu’n dwyn achos llys.

Rydym bob amser yn hysbysu’r Swyddfa Gartref am ddyledion mwy na £500 sy’n ddyledus am fwy na 2 fis. Bydd y Swyddfa Gartref yn eich atal rhag dychwelyd i’r DU nes bydd y ddyled hon wedi’i thalu.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: