Gall anawsterau gyda siarad, gwrando, deall, darllen ac ysgrifennu i gyd gael effaith fawr ar eich bywyd. Gall y rhain gael eu hachosi gan salwch sydyn fel strôc neu anaf i’r pen, neu gan gyflyrau parhaus fel clefyd parkinson neu sglerosis ymledol.
Byddwn yn gweithio gyda chi i nodi'r hyn sy'n anodd i chi a dod o hyd i ffyrdd o helpu. Gall hyn gynnwys ymarferion i weithio ar rai sgiliau, gwybodaeth i'ch helpu i ddeall/derbyn eich anawsterau, a helpu eraill i ddysgu sut i'ch helpu.
Rydym bob amser yn anelu at eich helpu gyda'r hyn sydd bwysicaf i chi.