Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Addysg i Gleifion (RAG Cymru)

Rydym yn darparu amrywiaeth o raglenni a gweithdai hunanreoli iechyd a lles am ddim i chi os oes gennych gyflwr iechyd neu i'r rhai sy'n gofalu am rywun â chyflwr iechyd. Maent yn rhoi'r cyfle i chi ddysgu sgiliau ymdopi newydd a all helpu i wella ansawdd bywyd bob dydd.

Mae ein rhaglenni a'n gweithdai'n amrywio o sesiynau unigol o 1 ½ awr i raglenni sy'n cwmpasu saith wythnos, mae'r sesiynau'n edrych ar ffyrdd o helpu i reoli effeithiau eich cyflwr iechyd fel;

  • rheoli symptomau fel poen a blinder;
  • delio â dicter, ofn a rhwystredigaeth;
  • ymdopi â straen, iselder a diffyg hunan-barch;
  • bwyta'n iach;
  • dysgu technegau ymlacio a gwneud ymarfer corff yn rheolaidd;
  • cyfathrebu gwell gyda theulu, ffrindiau a gweithwyr iechyd proffesiynol;
  • cynllunio ar gyfer y dyfodol.

Rydym yn cynnal rhaglenni a gweithdai mewn lleoliadau cymunedol ledled Ardal Hywel Dda yn ogystal â sesiynau rhithwir ar-lein.

 

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: