Neidio i'r prif gynnwy

Radioleg

Beth mae'r gwasanaeth yn ei gynnig i'r claf?
Mae ein tîm o Radiolegwyr Ymgynghorol, Radiograffwyr, Sonograffwyr ac Ymarferwyr Cynorthwyol yn cynnal archwiliadau delweddu sy'n helpu gyda diagnosis, triniaeth a monitro clefydau ac anafiadau.

 

Mae’r adran Radioleg yn cynnig amrywiaeth o archwiliadau delweddu fel:

• 'pelydr-x'

• sganio tomograffeg gyfrifiadurol (CT).

• uwchsain

• delweddu isotop ymbelydrol (RNI)

• delweddu cyseiniant magnetig (MRI)

 

Ein horiau gwaith arferol yn yr adran Radioleg yw dydd Llun i ddydd Gwener 8:45am -5pm ar draws pob un o’n 4 ysbyty. Fodd bynnag, rydym ar agor 24 awr ar gyfer argyfyngau sy'n dod trwy adrannau damweiniau ac achosion brys, Unedau Mân Anafiadau a wardiau ysbytai.

Rydym ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.45am a 5.00pm ar y manylion cyswllt canlynol:

Adran Radioleg, Ysbyty Cyffredinol Glangwili, Heol Dolgwili, Caerfyrddin, SA31 2AF

Rhif Ffôn: 01267 227645

 

Adran Radioleg, Ysbyty Tywysog Philip, Ffordd Dafen, Llanelli SA14 8QF

Rhif Ffôn: 01554 781116 or 01554 871117

 

Adran Radioleg, Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, SY23 1ER

Rhif Ffôn: 01970 635681

 

Adran Radioleg, Ysbyty Llwynhely, Heol Abergwaun, Hwlffordd, SA61 2PZ

Rhif Ffôn: 01437 773385

Gallwch gael eich cyfeirio at yr Adran Radioleg gan feddyg, ymgynghorydd neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall (ymarferydd nyrsio, podiatrydd neu ffisiotherapydd).

 

Pelydr X Cyffredin

Ysbyty Tywysog Philip (Gwasanaeth Cerdded i Mewn)

Os oes angen pelydr-X arferol arnoch a bod eich meddyg teulu wedi rhoi ffurflen i chi, rydym yn cynnig gwasanaeth cerdded i mewn. Gallwch droi i fyny unrhyw bryd rhwng 8am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Gan fod hwn yn wasanaeth cerdded i mewn, gall fod yn brysur iawn. Byddem yn eich cynghori i roi galwad i ni cyn i chi fynychu i wirio amseroedd aros presennol. Ein rhif ffôn yw 01554 781116 or 01554 871117.

 

Ysbyty Glangwili, Bronglais a Llwynhelyg (Dim gwasanaeth cerdded i mewn)

Rydym yn rhedeg ychydig yn wahanol yn y 3 ysbyty yma. Os yw eich meddyg teulu wedi gofyn am belydr-X arferol, anfonir apwyntiad atoch yn y post. Arhoswch am eich apwyntiad cyn dod i'r adran.

 

Ysbyty Llanymddyfri

Rydym yn rhedeg gwasanaeth cyfyngedig yn Ysbyty Llanymddyfri. Pan fyddwn yn derbyn atgyfeiriad ar eich cyfer a hwn yw’r ysbyty agosaf a mwyaf cyfleus, bydd llythyr apwyntiad yn cael ei anfon atoch. Arhoswch am eich apwyntiad cyn dod i'r adran.

 

CT, MRI, RNI ac Uwchsain

Os oes angen sgan CT, MRI neu Uwchsain arferol arnoch, byddwn yn derbyn atgyfeiriad gan eich meddyg, ymgynghorydd neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol. Unwaith y cawn eich atgyfeiriad bydd yn cael ei asesu, a bydd llythyr apwyntiad yn cael ei anfon atoch yn y post yn dibynnu ar y brys clinigol.

 

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: