Neidio i'r prif gynnwy

Cwestiynau cyffredin ynghylch cael mynediad i wasanaethau deintyddol y GIG

Beth os ydw i wedi colli apwyntiad ar gyfer archwiliad?

Caiff archwiliadau deintyddol eu hystyried yn ofal arferol nad yw wedi ailddechrau eto yng Nghymru. Bydd practisiau deintyddol yn ailddechrau darparu gofal arferol cyn gynted ag y byddant yn gallu gwneud hynny.

 

Beth os oeddwn i wedi dechrau cael triniaeth cyn y pandemig?

Bydd gan y practis gofnod o gleifion a oedd wedi dechrau cael triniaeth nad oedd wedi’i gorffen. Bydd practisiau yn dechrau cysylltu â chleifion i drefnu apwyntiadau cyn gynted ag y byddant yn gallu gwneud hynny.

 

Beth y dylwn i ei wneud os oes arnaf angen triniaeth ddeintyddol frys?

Os oes gennych ddeintydd yr ydych yn ei weld yn rheolaidd, cysylltwch â’ch practis arferol. Os nad oes gennych bractis yr ydych yn mynd iddo’n rheolaidd, ffoniwch 111.

Bydd pob claf yn cael galwad ffôn brysbennu, a fydd hefyd yn gyfle i roi gwybodaeth i chi am y broses y dylech ei dilyn pan fyddwch yn cyrraedd y practis. Mae’n bosibl y gofynnir i chi aros yn y car nes y bydd y tîm yn barod i roi triniaeth i chi. Os bydd hynny’n digwydd, bydd aelod o staff yn dod i’ch casglu ac yn eich hebrwng i mewn i’r adeilad.

Os oes arnoch angen triniaeth megis tynnu neu lenwi dant, caiff triniaethau o’r fath eu hystyried yn driniaethau sy’n cynhyrchu aerosol, a dim ond mewn practis sydd â’r mesurau priodol ar waith y gellir eu cyflawni. Os na all eich practis ddarparu’r gofal hwnnw i chi, byddwch yn cael eich cyfeirio at ganolfan arall lle gellir darparu’r lefel briodol o ofal.

 

Beth os oes arnaf angen triniaeth arbenigol?

Os cawsoch eich atgyfeirio cyn y pandemig, bydd eich enw ar y rhestr aros. Wrth i wasanaethau ailddechrau, bydd y rhestrau aros yn cael eu trefnu’n ôl blaenoriaeth er mwyn sicrhau bod yr achosion y mae’r brys mwyaf yn perthyn iddynt yn cael eu gweld yn gyntaf.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: