Rydym yng Nghanolfan Llygaid Aberystwyth. Rydym yn cynnal clinigau orthopteg i blant ac oedolion, gwasanaeth strôc a gwasanaeth biometreg (asesiadau rhagarweiniol) ar gyfer cleifion cataract. Mae’r gwasanaethau ychwanegol a gynigir yn cynnwys clinig orthopteg/offthalmoleg ar y cyd yn Aberystwyth, clinig profion golwg yn Aberteifi a chlinigau orthopteg perifferol yn Aberaeron, Aberteifi, Tywyn a Phowys.
Yr Adran Orthopteg, Canolfan Llygaid Aberystwyth, Ffordd y Gogledd, Aberystwyth, SY23 2EG
01970 636212 (llinell uniongyrchol - ni fydd neb yn ateb tra bydd clinigau’n cael eu cynnal) neu 01970 636200 (y brif dderbynfa)