Neidio i'r prif gynnwy

Orthopteg - Beth y gallwch ei ddisgwyl yn ystod eich apwyntiad

Apwyntiadau orthopteg

P’un a ydych yn oedolyn neu’n blentyn sy’n mynychu’r gwasanaeth orthopteg, bydd eich golwg a symudiadau eich llygaid (symudoldeb ocwlar) yn cael eu hasesu drwy ofyn i chi edrych ar wahanol luniau neu lythrennau.

Apwyntiadau clinigau profion golwg (plant yn unig)

Yn yr apwyntiadau hyn, bydd yr arbenigwr yn cadarnhau a oes angen sbectol arnoch ai peidio. Yn yr apwyntiad hwn, byddwch yn gweld orthoptydd ac optometrydd. Yn ystod eich apwyntiad, bydd yr orthoptydd yn asesu eich golwg drwy ofyn i chi baru neu enwi lluniau neu lythrennau, a bydd yn archwilio symudiadau eich llygaid. Bydd diferion llygaid yn cael eu defnyddio, sy’n gwneud cannwyll y llygad (rhan dywyll eich llygad) yn fwy o faint ac a fydd yn golygu na fyddwch yn gallu gweld pethau’n glir am ychydig. Fyddwch chi ddim yn gallu gweld pethau’n glir am weddill y dydd. Gallwch fynd yn ôl i’r ysgol ar ôl eich apwyntiad ond dylech ddweud wrth eich athro eich bod wedi cael diferion llygaid ac nad ydych yn gallu gweld pethau’n glir.

Ar ôl tua 30 munud (pan fydd y diferion wedi cael cyfle i weithio), byddwch yn cwrdd â’r optometrydd a fydd yn archwilio iechyd eich llygaid ac yn penderfynu a allai sbectol helpu i wella eich golwg. 

Os bydd angen sbectol arnoch, bydd yr optometrydd yn rhoi taleb i chi ac yn trafod y camau nesaf â chi.

Os yw’n ddiwrnod heulog, cofiwch ddod â’ch sbectol haul neu het gyda chi oherwydd bydd eich llygaid ychydig yn fwy sensitif i oleuni pan fydd y diferion llygaid wedi cael eu defnyddio.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: