Neidio i'r prif gynnwy

Lymffoedema

Mae lymffoedema yn fath o chwydd hirdymor sy'n para am fwy na thri mis. Gall ddigwydd yn unrhyw ran o'r corff ond mae'n fwyaf cyffredin yn y breichiau neu'r coesau.

Os oes gennych lymffoedema, rydych mewn mwy o berygl o gael cellulitis. Mae cellulitis yn haint croen sydd angen triniaeth frys.

Dyma arwyddion a symptomau cellulitis:

  • cochni neu frech ar y croen
  • ardal sy'n teimlo'n boethach na'r ochr gyferbyn
  • tynerwch neu boen
  • cynnydd sydyn mewn chwydd
  • teimlo'n sâl yn gyffredinol, fel symptomau ffliw
  • teimlo'n sâl neu'n chwydu.

Os ydych chi'n meddwl bod gennych chi cellulitis, mae'n arbennig o bwysig eich bod chi'n ceisio cymorth meddygol ar unwaith gan eich meddyg teulu. Os byddwch chi'n sylwi ar y symptomau hyn y tu allan i oriau, cysylltwch â'ch gwasanaeth meddyg teulu y tu allan i oriau.

Mae'n bwysig gweithredu'n gyflym i atal yr haint rhag gwaethygu, ac i atal difrod pellach i'ch croen.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: