Neidio i'r prif gynnwy

Sut y gellir trin prolaps organau'r pelfis?

Gall y math o brolaps sydd gennych, a'r symptomau yr ydych yn eu profi, ddylanwadu ar yr hyn a fydd yn digwydd nesaf a'r ffordd orau o drin eich prolaps. Gall yr argymhellion o ran triniaeth gynnwys cyngor ar ffordd o fyw a llesiant, megis cynnal pwysau iach, osgoi codi pethau trwm ac osgoi mynd yn rhwym. Gall argymhellion eraill o ran triniaethau gynnwys ymarferion llawr y pelfis, triniaethau hormonaidd, pesarïau gweiniol ac, mewn rhai amgylchiadau, llawdriniaeth.

Gallwch drafod eich opsiynau â'ch meddyg neu eich nyrs a phenderfynu pa ddewisiadau a fyddai'r rhai gorau i chi.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: