Neidio i'r prif gynnwy

Plant ac oedolion ifanc

Os ydych yn profi symptomau iechyd y pelfis y gallech fod yn cael trafferth eu rheoli, mae'n bwysig eich bod yn cyrchu'r cymorth, y gefnogaeth a'r cyngor y mae arnoch eu hangen, beth bynnag fo'ch oedran. Gallech fod yn profi mislifoedd trwm neu boenus iawn, neu efallai eich bod yn cael anhawster rheoli pryd y byddwch yn pasio dŵr, er enghraifft yn ystod y nos. Gall deimlo'n anodd i fechgyn a merched siarad am broblemau.

Mae bob amser yn well dechrau trwy drafod pethau ag oedolyn yr ydych yn ymddiried ynddo ac yn teimlo y gallwch siarad ag ef. Gallai'r oedolyn hwn fod yn rhiant, yn fam-gu neu'n dad-cu, yn athro neu'n nyrs ysgol.

Er mwyn sicrhau bod y cyngor a’r cymorth gorau ar gael i chi, gallech chi, ynghyd â’r oedolyn yr ydych wedi siarad ag ef, gysylltu ag aelod o’ch tîm gofal iechyd megis eich meddyg teulu, ymarferydd nyrsio, ymwelydd iechyd neu nyrs ysgol. Gallwch ofyn i'r unigolyn yr ydych wedi siarad ag ef eich helpu i gysylltu â'ch tîm gofal iechyd.

ERIC (agor mewn dolen newydd)

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: