Neidio i'r prif gynnwy

Hyfywedd meinwe

Mae'r tîm hyfywedd meinwe yn wasanaeth nyrsio arbenigol ar gyfer clwyfau sy'n cymryd amser hir i wella. Mae hyn yn cynnwys clwyfau llawfeddygol, wlserau coes neu wlserau pwyso. Rydym yn cynnal asesiadau ac yn nodi unrhyw broblemau a allai fod yn gohirio gwella clwyfau.

Mae gan ein tîm o nyrsys wybodaeth, sgiliau a phrofiad arbenigol mewn gofal clwyfau a hyfywedd meinwe.

Sut y gallaf gael fy atgyfeirio at y tîm hyfywedd meinwe?

Daw ein hatgyfeiriadau gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol. Mae hyn yn cynnwys meddygon teulu, nyrsys cymunedol a therapyddion sydd eisoes yn ymwneud â'ch gofal. Nid ydym yn derbyn hunan-atgyfeiriadau.

Sut alla i gysylltu â'r tîm hyfywedd meinwe?

Mae ein tîm wedi’i leoli ar draws ardal y bwrdd iechyd. Gallwch gysylltu â ni trwy e-bost ar TissueViability.GGH@wales.nhs.uk 

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: