Neidio i'r prif gynnwy

Haematoleg

Os yw eich meddyg yn bryderus fod ganddoch glefyd gwaed bydd yn gofyn i’r adran haematoleg am gyngor.

Y mae anhwylderau gyda’r gwaed yn amrywio o gelloedd gwaed sydd  yn rhy uchel neu yn rhy isel neu efallai fod gennych broblem gyda gor waedu neu gor geulo. Y mae cyfrif gwaed abnormal yn gallu adlewyrchu mêr asgwrn sydd ddim yn gweithio’n iawn felly mewn rhai sefyllfaoedd byddwn yn argymell prawf mêr yr esgyrn.

Rydym hefyd yn gallu eich trin os ydych yn byw gyda lymphoma ac efallai y byddwch yn cael eich anfon i’n hadran gyda diagnosis wedi ei gadarnhau. Byddwch yn cael eich cyfeirio i’r adran haematoleg oddi wrth eich meddyg teulu neu ymgynghorydd.

Rydym wedi ein lleoli yn ysbytai Bronglais, Glangwili, Tywysog Philip, a Llwynhelyg. Ym mhob ysbyty rydym yn darparu nifer o wasanaethau, sef:

Clinig haematoleg - y maent yn glinigau sydd yn cael eu harwain gan yngynghorydd gyda chefnogaeth tîm o feddygon a nyrsys.

Uned gemotherapi - y mae cleifion haemato-oncoleg yn cael eu cefnogi gan dîm o nyrsys arbennigol haematoleg.

Clinigau gwrthgeulo - sydd yn cael eu harwain gan nyrsys gwrthgeulo arbennigol yn cael eu rhedeg ar bob safle ynghyd a labordai haematoleg â’i staff.

 

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: